Skip to main content

Y TRAETHODYDD. Y DIWEDDAR BÂROH. WILLIAM REES, D.D. "0 FY nhad, fy nhad, cerbyd Israel a'i farchogion!" Felly y llefai Eliseus pan welodd Elias yn ymddyrchafu mewn corwynt tua'r nef; a pharod oedd llaweroedd yn Nghymru i ddadgan eu teimlad yn yr un geiriau ar dderbyniad y newydd fod y pregethwr godidog a'r duwinydd hybarch, Dr. Eees, wedi ei ddwyn oddiarnom drwy oruchwyliaeth angeu. Oes, y mae i ni alar trwm o herwydd ei golli ef! Pan gwympa y cedrwydd, onid gweddus yw i'r ffynidwydd udo ì Trist colli o'n mysg am byth unrhyw weinidog da i Iesu Grist; ond yr oedd Dr. Rees yn ẃr o ddefnyddioldeb mor eang ac o ddoniau mor anghyffredin fel, wrth feddwl am ei ymadawiad, y mae ynom ystyriaeth o golled nas medrwn ei thraethu. Tra yn ogoniant i'w genedl, yr oedd efe o'r gwerth mwyaf i eglwys Dduw, ac yn arbenig i'r enwad y perthynai iddo. I'r Cyn- nulleidfaolwyr Cymreig yr oedd ei enw yn dẃr o gadernid. Gall oesau fyned heibio cyn y codir i'w gwasanaethu eto un o athrylith mor ddys- glaer ac amlochrog ag efe. Yn holl elfenau mawredd dealltwriaethol, efe a ddaliai i'w gymharu âg unrhyw ŵr cyhoeddus a welodd y ganrif bresennol. Ymhlith cedyrn y weinidogaeth, gan nad am ba enwad y sonir, pwy yn gadarnach nag efe ? Ac i goroni y cyfan, yr oedd ef o ysbryd mor ragorol ac o ymarweddiad mor bur a dilychwin. Fel gweinidog cadwai olwg ar urddas ei swydd, a chyda zel a diwydrwydd apostol y cyflawnai ei dyledswyddau. Ei fywyd, fel ei ymddangosiad, ydoedd dywysogaidd; ac nid oedd fod ei angladd yn un tywysogaidd hefyd ond peth a ddygwyddai yn nghwrs naturiol pethau. Yn debyg i'r modd y sylwodd y Canaaneaid, pan welsant orymdaith angladdol y patrîarch Jaopb yn "llu mawr iawn" yn Uawr-dyrnu Atad, y gallasai y cannoedd a'r miloedd Saeson a edrychent ar ei orymdaith angladdol yntau yn Nghaer ac yn Liverpool ddywedyd, " Dyma alar trwm gan y Cymry." Anfynych yn wir y bu i'r newydd am farwolaeth unrhyw weinidog yn Nghymru o'r blaen greu cyffro mor ddwys neu alar mor gyffredinol. Er ys talm edrychid ar Dr. Eees, rhagor pawb eraül ymron, fel eiddo 1884. " i