Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Z $'J *>* Y TRAETHODYDD. DARLITHIAU Y PAECH. D. C. DAVIES, M.A., AR " GBISTIONOGAETH." VII. PERTHYNAS CRISTIONOGAETH A'R TEIMLADAU O DDEDWYDDWCH A THRUENI. V. Tuag at ddeall ymhellach y gyfundrefn o foesoldeb a amddiffynir gan Mr. Herbert Spencer, awn ymlaen i sylwi ar y gwahaniaeth sydd rhyngddi a'r golygiadau a goleddid gan Mr. John Stuart Mill ar y pwnc. Yn ei lyfr (The Data of Ethics) yr ydym yn cael Mr. Spencer yn dadleu yn gryf yn erbyn daliadau Mül a Bentham. Y mae Stuart Mill yn seilio moesoldeb ar fuddioldeb cymdeithasol; y mae Mr. Herbert Spencer, o'r ochr arall, yn ei seilio ar bleser hunanol. Yn y darnodiad hwn y mae pwys i'w roddi, nid ar y geiriau " buddioldeb " a "phleser," ond yn hytrach ar y geiriau " cymdeithasol" a "hun- anol." Wrth fuddioldeb cymdeithasol y meddylir, buddioldeb i eraill yn gystal ag i'r person ei hun. Tybia hyn nad ydyw dyn i gyfrif ei hun yn fwy nag un ymysg y lliaws, ac y dylai gan hyny ymwadu â'i les personol, os medr drwy hyny fod o ryw fudd i'r gymdeithas o ddynion i ba un y mae yn perthyn. Rhydd y golygiad hwn, felly, le i gariad at eraill weithredu er mwyn eu llesâu; mwy na hyny, brwd- frydedd dros ddynoliaeth a dynolryw a osodir yn sail pob ymddygiad gwir dda. Gwrthwyneba Mr. Spencer y golygiad trwy ddangos y gwahanol anghysonderau ymarferol yr arweiniai yr egwyddor hon iddynt pe gweithid hi allan gan bawb. Dadleua yn yehwanegol y gellir olrhain cymaint o wir ag sydd ynddi i bleser hunanol, o herwydd fod pob ymdrech o eiddo dyn i lesâu eraill oddiar gariad tuag atynt wedi ei wreiddio mewn ymgais am bleser iddo ei hun drwy hyny. Cynnwysa y gyfundrefn a elwir Utilitarianism un gwirionedd mawr a phwysig, sef fod cariad at eraill yn elfen mewn moesoldeb, ac y dylai ^ 1884. a