Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRÁETHODYDD. CYFIEITHIAD O'R EPISTOL CYNTAF AT Y CORINTHIAID. Pan gyhoeddwyd y cyfieithiad Saesoneg diwygiedig o'r Testament Newydd ddwy flynedd yn ol, bu llawer o siarad yma a thraw am gael cyfieithiad newydd hefyd i'r Gymraeg. Ond methwyd sicrhâu cyd- ddealltwriaeth gyda golwg ar y dull goreu o ddwyn yr amcan i ben, a digalonwyd y rhai a ysgogent yn y mater gan yr anfoddlonrwydd a amlygwyd yn Ued gyffredinol i'r cyfieithiad newydd Saesoneg, a'r condemniad o hono a ddadganwyd gan rai ysgolheigion. Ar y cyfan, gwell, yn ddiau, oedd oedi y gorchwyl ar y pryd. Er hyny ni ddylid gadael i'r bwriad syrthio yn hollol i ebargofiant. Fe ddichon na ddaeth yr amser eto, ac fe allai na ddaw byth, i gyhoeddi cyfieithiad awdurdodedig yn Gymraeg, yr hwn a gymer le hen gyfieithiad rhagorol yr Esgob Morgan fel y diwygiwyd ef gan yr Esgob Parry. Ond y ffordd oreu i wybod hyny ydyw i amryw wneyd cais at gyfieithu rhanau o'r Ysgrythyr a'i gynnyg i sylw a barn eraill, fel y gwnaeth rhai yn Lloegr cyn penodiad y Remsion Committee. Ac os hefyd y bernir nad oes angen i ni droi heibio yr hen gyfieithiad, neu mai gweíl yw yr hen, nid ofer fydd y llafur. Y mae y cyfieithiad newydd Saesoneg yn ateb dyben da fel esboniad yn nwylaw athrawon ac efrydwyr. Cais at hyn ydyw y cyfieithiad a ganlyn o'r Epistol Cyntaf at y Corinthiaid. Nid cyfieithiad ydyw o'r cyfieithiad newydd Saesoneg. Eto dewisais y testun gwreiddiol a fabwysiadwyd gan y Benisers, ac a gyhoeddwyd gan yr Archddiacon Palmer, yr hwn nid yw yn gwahan- iaethu llawer oddiwrth destun Westcott a Hort. Yr wyf yn argy- hoeddedig o gywirdeb yr egwyddorion ar ba rai y gweithredai yr ysgolheigion hyn yn ffurfiad eu testun, a bod amddiffyniad y Deon Burgon o destun Stephanus yn hollol gyfeiliornus. Yr un pryd cymerais fy rhyddid i ddewis darlleniad gwahanol mewn ychydig fanau, pan yr ymddangosai i mi fod Uais y llawysgrifau neu yr ystyr yn gofyn hyny. Yr wyf wedi nodi y darlleniadau hyn ar ymyl y ddalen. Pan y byddwn yn ammheus pa un o ddau gyfieithiad oedd 1888, ? b A ■