Skip to main content

Y TRAETHODYDD. AWDL MOE Y CANOLDIR.* Trem gyffredinol ar y Môr—Eawau Ysgrythyrol a chlasurol Môr y Canoldir —Ei leoliad — Ymholiadau am ei ffurfiad—Yn frenhiniaeth Neifion—Ei henafiaeth, ei anghyfnewid- ioldeb, a'i deyrnasoedd cylcliynol—Ei gynnwysiad a'i hynodion anianyddol—Ei afonydd —Ei ynysoedd - Ei ddiuasoedd cylchynol—Ỳn fagwrfa morwriaeth—Herwlongau—Mor- deithiau hynod drosto— Brwydrau nodedig arno—Rhai o'r enwodon fu yn edrych arno— Yn ganolbwynt llawer o gau-grefyddau—Ei berthynas â'r Eglwys—Y frwydr fawr ddiweddaf ar ei làn—Diweddglo—" A.'r môr nid oedd mwyach." Yn hytrach nag anurddo y tu dalenau â nodiadau ar bob pwynt aneglur, dymuna yr awdwr gyfeirio y darllenydd ymchwilgar at weithiau o fath Rear-Admiral Smyth's Medüerrancan, a Dr. William Smith's Classical Dictionary. Y Mor ! portrëad mawredd—diwaelod, Delw anfeidroledd! Erch eilun arucheledd, Ardeb anhwyldeb neu hedd! Un ydyw, dan newidiol—arweddau, Ac enwau gwahanol; Af heddyw yn arfeiddiol At un ran o'i gyfan gôl. Môr-ran âg amryw enwau Yw y môr, sydd destun mau. I genedl yn trigianu Yn nghẁr ei fwstwr a fu, Rhuadwy " fôr mawr " ydoedd, A'r penaf "fôreithaf" oeddj Ac ynddo yn cwyso caid Ystwyth " fôr y Philistiaid;" A'i wel'd yn Fôr Canoldir Bu duwies Hanes yn hir; Gwobrwywyd yr Àwdl hou âg Ügain Gini a Chadair Dderw yn Eisteddfod SfeW York, Nadolig, 1882. 1883. B