Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. YR YSPIENDDRYCH A'I DDARGANFYDDIADAU. Ar ol ymdroi cyhyd gyda hanes dyfeisiad a gwneuthuriad yr Yspien- ddrych, a'r darganfyddiadau a wnaed gydag ef ar yr Haul, y mae yn bryd i ni ei droi at rai o'r " Sêr a'r Planedau." Afreidiol ydyw hysbysu darllenwyr meddylgar y Traethodydd am y gwahaniaeth sydd rhwng y " sêr" a'r " planedau;" gan eu bod yn ddiau yn gwybod hyny yn dda eisoes. Ar yr un pryd yr ydym am i'n hysgrifau fod yn gyflawn, ac am hyny yr ydym o dan rwymau i ysgrifenu fel pe na byddai lioll ddarllenwyr craffus ein cylchgrawn chwarterol yn gwybod. Fel yr ydym eisoes wedi dyweyd, y mae y sêr sydd yn arianu y wybren bob noswaith glir, ond sylwi yn fanwl, yn codi yn y dwyrain ac yn machlud yn y gorllewin bob nos, fel y mae yr haul yn gwneyd bob dydd. Mae hyn wrth gvvrs yn cael ei achosi gan dröad y ddaear ar ei hechel mewn rhyw bedair awr ar hugain. Ond er eu bod fel hyn yn symud bob nos, y maent yn gwneyd hyny yn un corff, megys, gyda'u gilydd. Yn eu perthynas y naill â'r llall, y maent yn "sêr sefydlog." Sylwer ar ryw rai neillduol o honynt—ar ryw gydsêr neu constellation fel eu gelwir,—a cheir, er eu bod yn codi ac yn machlud, ac yn gwneyd hyny yn gynt y naill noson ar ol y llall, nes myned o'r golwg yn llwyr, ac ail ymddangos ymhen misoedd wedi hyny yn y dwyrain, neu yn hytrach yn y rhanau dwyreiniol o'r wybren; eto y mae yr un clysdwr o sêr yn cadw yr un berthynas â'u gilydd. Mae y " Saith Seren ac Orion," mae Arcturus a'r Pleiades, Castor a Phollux—enwau sydd i'w cael yn yr Hen Lyfr,—i'w canfod yn yr un fan yn yr wybren yn eu cysylltiad â'u gilydd ag oeddent yn amser Job a'r Apostol Paul. I'r Hygad noeth—sylwer, "i'r llygad noeth"—y maent, fel y dywedwyd, yn " sêr sefydlog." Ond os sylwir yn fanwl fe geir fod ambell un o ser yr wybren heb fod felly. Y maent yn symud ymhlith y sêr eraill, weithiaú yn y cyfeiriad hwn, bryd arall mewn cyfeiriad gwrth- wynebol; a gellid casglu eu bod yn nês atom na'r lleill, gan eu bod yn pasio heibio iddynt, megys rhyngom ni â hwynt. Darganfyddwyd pump o'r rhai hyn gan ein henafiaid—sef Mercher, Gwener, Mawrtìi, iau, a Sadwrn. Nid oes neb yn gwybod pwy a'u darganfyddodd gyntaf; y uiae enw neu euwau y cyfryw yn guddiedig yn nirgelwch yr oesoedd