Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. YR YSPIENDDRYCH Al DDARGANFYDDIADAU. Os bydd i ddarllenydd y Traethodydd fod mor garedig a throi at y Gyfrol am 1871, fe wêl ein bod wedi ysgrifenu dwy o erthyglau ar y testun hwn; ac yr oeddem y pryd hyny yn addaw i ni ein hunain y pleser o ysgrifenu tair neu bedair o erthyglau eraill ar yr un testun, gan fyned ymlaen i nodi yn fanwl y prif ddarganfyddiadau a wnaed gan Seryddwyr gyda chynnorthwy yr offeryn ardderchog yr Yspienddrych. Yn nghanol gorchwylion eraill, gorfu arnom, pa fodd bynag, oedi cyf- lawni ein bwriad o wythnos i wythnos ac o fis i fis; ac yn awr, wrth ymaflyd yn ein hysgrifell i roddi y bwriad mewn gweithrediad, a throi i edrych ymha le yr oeddem wedi gadael y testun, er ein mawr syndod yr ydym yn cael fod deng mlynedd wedi pasio er pan yr ysgrifenasom y ddiweddaf o'r ddwy erthygl. Nid yw yn ymddangos i ni ond fel ychydig o fisoedd yn ol, ac yr ydym yn gorfod teimlo i fesur yn ddifrif- ol, a sibrwd yn ddystaw wrthym ein hunain, "Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau fel y dygom ein calon i ddoethineb ;" a hefyd eiriau ein Har- glwydd, " Gweithiwch tra mae yn ddydd, canys y mae y nos yn dyfod pryd na ddichon neb weithio." Y mae genym ychydig o seibiant yn awr, ac yr ydym, gan hyny, yn bwriadu myned ymlaen gyda'r testun difyrus a roddwyd heibio genym am gymaint o amser. Os troir at yr erthyglau blaenorol, fe ganfyddir ein bod wedi rhoddi hanes lled fanwl am ddyfeisiad cyntaf yr Yspienddrych, am y gwelliant- au a wnaed yn ei wneuthuriad, am y gwahanol fathau o yspienddrychau, pa fodd i'w gwneyd, a'u defnyddio, ac yna wedi dechreu ar rai o'r dar- ganfyddiadau rhyfedd a wnaed yn y nefoedd wybrenol trwyddynt. Dechreuasom gyda'r Haul, fel canolbwynt mawr ein cyfundrefn ni. Desgrifiasom yr ysmotiau sydd i'w canfod ar ei wyneb, y modd y can- fyddwyd tröad yr haul ar ei echel mewn canlyniad i ddarganfyddiad yr ysmotiau, a nodasom lîaws o bethau eraill yiiglŷn â'r ysmotiau hyn, a'r cysylltiad tybiedig rhwng eu hymddangosiad â thrydaniaeth a gweithiad y pellebyr, a phethau eraill. Terfynasom yr ail erthygl trwy ofyn, Beth tybed a all y corff mawr hwn, sef yr haul, fod 1 Beth ydyw yr ysmot- iau anferth sydd yn myned trwy y fath gyfnewidiadau sydyn? Pa