Skip to main content

Y TRAETHODYDD. DARLITHIAU Y PAECH. D. C. DAVIES, M.A., AE " GEISTIONOGAETH." Rhagnodiad. Traddodwyd y darlithiau üyn gan y Parch. D. Charles Davies, M.A., ar wahanol adegau yn ystod y tri thymmor gauaf diweddaf i Gymdeithas Pobl Ieuainc Jewiu Newydd, Llundain. Ynddynt y mae y darlithydd parchedig yn trin materion a gafodd sylw dynion difrifol pob oes, materion sydd yn y deg neu y pymtheng mlynedd diweddaf wedi dyfod o ddyddordeb arbenig i bob dyn meddylgar. Ymresyma y cwest- iynau pwysig sydd yn ymwneyd a Chrefydd a Gwyddoniaeth, â Ffydd a Rheswm, mewn ysbryd sydd ar y naill law yn rhydd oddiwrth bob culni duwinyddol, ac ar y llaw arall oddiwith drahausder gwyddonol. Y mae nid yn unig yn hoÚol gyfarwydd à'r materion a drinir ganddo fel y gosodwyd hwynt i lawr ac yr ỳmresymwyd hwynt yn yr amser a basiodd, ond y mae yr un mor gyfarwydd â'r gwahanol agweddau yn y rhai y cyflwynir hwynt i ni yn y dyddiau goleuedig hyn. Fod agwedd prif wyddonwyr y wlad hon a gwledydd eraill tuag at y cwestiynau sydd yn ymwneyd âg anfarwoldeb, â natur enaid, â chrefydd Crist, â'r Bôd o Dduw, wedi rhoddi ysgydwad i ffydd miloedd o'n cyd-ddeiliaid, sydd ffaith nas gellir ei gwadu. Nid yw Gwyddoniaeth yn credu dim ond a ellir ei broô. Gall fod Person Dwyfol yn bod, sydd yn cymeryd sylw o aragylchiadau dynion, ond nis gall Gwyddoniaeth brofi hyny; am hyny y mae crediniaeth yn y fath Berson yn groes i'r ysbryd gwyddonol! Galì fod y cyfryw beth ag enaid, sef ysbryd yn meddu ar fywyd, neu bosibilrwydd bywyd, ar wahân i'r corff, ond nid oes prawf o hyny yn bod; am hyny y mae credu yn yr enaid yn wrth-wyddonol! A chan nad oes enaid, nid oes iachawdwriaeth, naç angen ain iachawdwriaeth; a heb iachawdwriaeth nid yw Cristionogaeth ond crefydd wag a diwerth! Dyma'r gwersi a ddysgir gan Wyddoniaeth, gyda'r canlyniad o wneuthur Anghrediniaeth yn uchel ei ben yn ein tir. Y mae "ein harweinwyr ysbrydol" yn plygu dan bwysau anhawsderau ac ammhtuon nas gallant eu hesbonio; y mae eu gwrandäwyr rhwng dwy ystôl yn syrthio i lawr i ganol tristwch a thywyllwch annesgrif- iadwy. Y mae Duwinyddiaeth yn ymbalfalu am resymau i gynnal ein ffydd, a'i dysgyblion yn rhy aml yn myned i ganlyn y cenllif sydd yn bygwth ein gordoi. Yn ffodus, fodd bynasr, ceir ochr arall i'r cwestiwn. Nid yw Gwyddoniaeth erioed wedi profi nad oes Duw yn bod; nid ydyw hyd yn hyn wedi gwneuthur yn berffaith amlwg nad ydyw dyn namyn ffurf uwch ar anifail; y mae wedi methu dangos mai breuddwyd yw anfarwoldeb; ac nid ydyw eto wedi Uwyr argyhoeddi y byd mai celwydd yw crefydd Crist. Yr un pryd, y mae yn ofynol i ni gael rhyw safle heblaw y nacäol i sefyll arno ; ac yn y darlithiau hyn nid ammheuwn na dderbynia llawer sydd yn cael eu poeni gan ammheuon crefyddol y cymhorth sydd yn codi oddiar gymundeb âg un sydd yn cyfuno gwybodaeth eang â ffydd gadarn. Nis gall rhai o'r fath lai na theimlo fod y darlithydd, nid yn unig yn deall eu hanhawsderau, ond i raddau helaeth yn cydymdeimlo â hwynt. i. ._.., ..... analluogi i ymgymer„ wasg. 0 dan yr amgylchiadau hyn cafodd yr ysgrifenydd ganiatâd i argraffu y nod- iadau cyfiawn a gymerwyd ganddo ar draddodiad y darlithiau, er budd darllenwyr j Traethodydd. Fel y gellid dysgwyl, y mae nodiadau dysgybl yn rhwym o fod ymhell yn oi i'r hyn f'uasai gwaith perffeithiedig yr Athraw; ond gall yr ysgrifenydd dystio iddo osod i lawr gynnwys yr holl ddariithiau, mor agos ag yr oedd hyny yn bosibl, yn ngeiriauydarlithyddeihun.—E. Vhíceht Evans. 2 0