Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DR. CANDLISH. Memorials of Robert Smith Gandlish, D.D., Minister of St. George's Free Church, and Principal of tlie New Colleçe, Edinbnrgli. By W. Wilson, D.D., Miaister (emeritus) of St. Paul's Free Church, Dundee ; with con- cluding chapter by Robert Eainy, D.D., Principal & Professor of Church History, New Colíege, Edinburgh. Edinburgh : Adam & Charles Black, Daeth y gyfrol brydferth y mae ei henw uwch ben ein hysgrif i'n llaw ychydig wythnosau yn ol, a mawr ydoedd yr hyfrydwch a gawsom wrth ei darllen. Teimlem fwy o ddyddordeb ynddi am ein bod wedi cael cyfleusdra i adnabod ei gwrthddrych, ac i wrando arno yn pregethu lawer gwaith. Yr oedd Dr. Candlish yn ddyn oedd yn teimlo dyddor- deb mawr mewn pobl ieuainc, ac yn awyddus am wneyd a allai i rwyddhâu eu ffordd yn eu hymdrech i barotoi eu hunain gogyfer â defnyddioldeb dyfodol, a chofiwn yn hir ei ofyniad caredig pan aethom ato i gyflwyno iddo docyn ein haelodaeth eglwysig. Dyma fel y gofyn- odd, " What can I do for you?" Cyn i ni ofyn yr un gymwynas ganddo ond cael bod yn aelod o'i eglwys, yr oedd efe yn gofyn i ni, Beth a allai wneyd i ni 1 Mae yr argraff a gynnyrcha gofyniad caredig fel hwn ar galon y dyeithr bron yn annileadwy. Fel y dywedasom, cawsom y pleser o wrando arno yn pregethu lawer gwaith, ac yr oeddym yn ei edmygu mewn gwirionedd. Yr oedd yn well genym ei wrando na'r un pregethwr arall y cawsom y cyfieusdra i'w glywed yn mhrifddinas y Go- gledd. Byddai ei bregethau yn wastad yn wledd feddyliol, ac yn fynych yn llwyddiannus i gyrhaedd y galon. Diammeu genym fod cryn nifer o ddarllenwyr y Traethodydd wedi cael cyfleusdra i'w weled a'i glywed yn ei gapel ei hun yn Edinburgh, a mwy wedi cael y cyfleusdra hwnw pan ydoedd yn myned i mewn ac allan yn ein plith ni yn Nghymru. Bu yn aros yn Beaumaris a lleoedd eraill, ac yr ydym yn gwybod ddarfod iddo fod yn pregethu yn Mhont Menai, Bangor, a manau eraill. Bu rai gweithiau yn ein Cymdeithasfaoedd fel cynnrychiolwr anfonedig oddiwrth Eglwys Rydd Scotland, ac y mae y rhai gafodd y fraint o'i glywed yr adegau hyny yn ei gofìo yn dda. Felly wrth ddwyn Dr.