Skip to main content

Y TRAETHODYDD. CYNGHORION ESGOB THffiLWALL. Y mab cynnulliad lliosog o glerigwyr i wrandaw anerchiad gan eu hesgob, i'r hwn y perthyna i arolygu maes a gweithrediadau eu llafur, yn gyfleusdra pwysig a gwerthfawr. Mae esgobion Eglwys Loegr yn ddynion o ddysgeidiaeth ëang, oedran addfed, a phrofìad helaeth; a'r rhan liosocaf o honynt yn feddiannol ar dalentau naturiol dysglaer, wedi eu diwyllio yn dda a than yr amgylchiadau mwyaí manteisiol. Heblaw hyny, y mae cysylltiad yr Eglwys â'r Wladwriaeth yn gosod urddas arnynt na pherthyna i un dosbarth arall o weinidogion yr efengyl; mae y nifer mwyaf o honynt yn aelodau o Dŷ Uchaf ein Senedd, maent yn Arglwyddi yn ein tir. Rhesymol gan hyny yw dysgwyl i'r Cynghor- ion a draddodir ganddynt i'r offeiriaid ar achlysur yr hyn a elwir eu "Hymweliadau Tairblynyddol" fod yn gyfansoddiadau o nodwedd uchel o ran cynnwysiad ac arddull; yn enwedig pan ystyriwn gymeriad y gynnulleidfa a anerchir ar yr achlysuron hyn, ei bod yn gynnwysedig o'r rhai y mae " gofal eneidiau" arnynt. Ỳ mae hwn yn gyfleusdra rhagorol i "ail ennyn dawn Duw" yn y rhai sydd yn proffesu eu bod wedi eu galw i weinidogaeth yr efengyl, i symbylu y llesg, i gefnogi y gwan a'r digalon, i roddi cyfarwyddyd mewn materion o anhawsder, i alw sylw at bethau angenrheidiol, ac i roddi cyfeiriad i feddyliau dysg- awdwyr y bobl. Nid bob amser, modd bynag, y mae yr esgobion wedi bod yn alluog i ddyfod i fyny â'u cyfleusderau ar yr achlysuron hyn, ac y mae sefyllfa y clerigwyr wedi bod cyn hyn y fath fel nad oedd cynghorion eu harolygwyr yn cael nemawr sylw oddiwrthynt. Ond fel y dywedasom mewn rhifyn blaenorol, y mae Cynghorion Esgob Thirl- wall o Dýddewi yn gyfansoddiadan gwychion, ac y maent yn hollol deilwng o'r achlysuron ar ba rai y traddodwyd hwynt. Mae arddull eu cyfansoddiad yn uchel a gorphenedig, eu tôn yn rhagorol, a'u hysbryd yn ëang a rhyddfrydig ; y materion ynddynt wedi eu dewis yn dda, a'r ymdriniaethau arnynt yn alluog a dysgedig. Diammeu genym yr erys y Cynghorion hyn ymhlith gweithiau clasurol yr iaith Saesoneg, ac yn gofadail i alluoedd a dysgeidiaeth anghyffredin un o brìf ddynion y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 1879.—4 2 o