Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. ARCHWILIAD PALESTINA. Yn ychwanegol at y ddwy Gymdeithas sydd eisoes mewn gwaith er archwilio y Tir Sanctaidd, set' y Gymdeithas Brydeinig a'r un Americ- anaidd, ceir banes fod trydedd ar gael ei ffurfio yn Germany i'r un amcan. Ymhlith ei hyrwyddwyr a'i noddwyr hi ceir enwau gwýr dysgedig a dylanwadol. Y mae ei ehylchlythyr yn arwyddedig gan Dr. ZimmermaD, Proffeswr Socìd, a'r Proffeswr Kaotych o Basel. Hefyd ymhlith y Cyfeisteddfod ceir y Count von Moltke, Carl Baedekes, Dr. Rupert, y Trafnoddwr Ellmynig yn Jerusalem, Dr. Sandrechi, a lliaws o wŷr ardderchog eraill. Hefyd ceir yn y cylchlythyr gyfres faith o enwau pwysig sydd wedi ymrwymo i gynnorthwyo y symudiad. Bydd i'r gymdeithas hon hefyd gyhoeddi adroddiad chwarterol o'i holl weith- rediadau, megys ag y gwna y gyradeithas Brydeinig. Rhwng yr holl gymdeithasau hyu, dysgwylir archwiliaeth gyflawn a thrwyadl, a gwybodaeth scr am ansawdd yr holl wlad, o Dan hyd Beerseba, yr hyn fydd yn foddion i berffeithio gwyddoriaeth a llenyddiaeth gwîad yr addewid. Y mae ychwaDeg na deuddeg o wŷr wedi myned allan er edrych ansawdd y wlad, gwŷr da eu gair, ac yu meddu ar ysbryd arall; ac niae yn ddiammheu y bydd ffrwyth ymchwüiad "yr ysb'iwyr" hyn yn gaffaeliad gwerthfawr i lenyddiaeth Fiblaidd, ac yn brawf ychwanegol o ddilysrwydd a gwirionedd y Gyfrol Ddwyfol. Mae y Cymdeithasau hyn yn perthyn i'r tair teyrnas, y rhai, o holl deyrnasoedd y ddaear, sydd yn teimlo fwyaf o ddyddordeb yn Palestina—sef Prydain, Germany, ac America. O'r holl ymwelwyr cyfrifol a deallgar i wlad Caoaan—yn annibynol ar y pererinion " truain tlodion—" deiliaid y tair gwlad a nodwyd ydynt liosoeaf, ac o'r tair, y lliosocaf ydyw America. Ni fethem wrth ddywedyd y ceir mwy o Americaniaid yn Palestina yn amser yr ymweliad, er yr holl bellder i deithio, nag a geir o'r holl genhedloedd eraill gyda'u gilydd. Ac hefyd fe ddywedir, o'r holl ymwelwyr, mai hwy ydyw y rhai mwyaf goleuedig a deallgar, a'u bod yn fwy cyfarwydd yn llëoliad, daearyddiaeth, a hanesiaeth y wlad. Y mae y ffeithiau hanesyddol cysylltiedig â'r manau yr ymwelir â hwy, yn barod gan yr Ianci ar flaen ei fysedd. Nid peth dyeithr ydyw i'r teithiwr ddygwydd bod yn gwybod mwy aoi 1078—3. k