Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Y PATBIABCH JOB. Dr. Jóhn Kitto's Cyclopcedia of Biblical Literature. Article: Job. Dr. William Smith's Dictionary of the Bible. Article: Job. The ExposUor for 1876, 1877. Articles bj S. Cox. Commentaries on Job, by Prof. S. Lee (1837); Rev. G. P. Carey, M.A. (1858) ; Kev. Albert Barnes (1860) ; Prop. A. B. Davidson, M.A (1862); F. Delitzsch, D.D. (1866), &c. Dr. John Jahn's Introduction to the Old Testament. New York, 1827. Archbishop Magee's Discourses on the Scriptural Doctrines of Atonemmt and Sacrifice. Explanatory Dissertation, No. 59. Cyfeirir at Job yma a thraw yn y Bibl fel dyn ag oedd yn teimlo ac yn dyoddef megys eraill o blant dynion. Cysylltir ei enw â Noah a Daniel (Ezec. xiv. 14), fel rhai cyfiawn ac anwyl gan Dduw; ac âg Elias (Iago v. 11, 17), fel un enwog am ei amynedd, megys ag yr oedd Elias am nerth a dylanwad ei weddiau. Dengys hyn ei fod yn ddyn gwir- ioneddol, ac nid yn greadigaeth dychymyg ysgrifenydd y llyfr; a bod y llyfr yn sylfaenedig ar ffeithiau hanesyddol, ac nid yn gywreinwaith dammegol. Mae y manylion a gynnwysa yn anghyson â'r dyb mai dammeg yw y llyfr. Ceir ynddo enwau cyfeillion Job, eu gwlad, eu teuluoedd, a'u henafìaid; yr hyn a fyddai yn anghyson â'r syniad mai math o alegori ydyw (i. 1; ii. 11, &c.) Mae y dwysder enaid a ddangosir yn y llyfr, yr awydd angerddol a'r hiraeth ysol a deimlai Job am gymdeithas Duw, y tristwch prudd- glwyfus a'r dychrynfeydd cyffrous a'i goddiweddai yn ei absennoldeb ef, ymdrechion ei ffydd i fyw o dan y tònau, gan lefain, " Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef," gyda'r dychlamiadau o lawenydd a'i gorchfygai yn y rhagolwg ar ei waredigaeth; mae y pethau hyn, meddwn, yn arddangos gwirionedd hauesyddol y llyfr. 1877.—4. j 3b