Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. BYWYD AC ANLLYGEEDIGAETH. EETHYGL I. Mae yn debyg yr addefa pawb o'n darllenwyr fod y geiriau " bywyd ac anllygredigaeth" naill ai yn cynnwys yn uniongyrchol, neu ynte yn arwain o anghenrheidrwydd at, niíer o'r pethau mwyaf pwysig ag y mae yn bosibl i feddwl dyn synio arnynt ac ymofyn yn eu cylch. Dygant i fewn yn y cyffredin gyfres o syniadau o'r fath a ganlyn:—Y mae y bobl a fu gynt, a llawer o'm rhai anwyl, wedi marw; y mae fy nghyd-ddyn- ion o un i un yn fy ngadael; cyn hir mae yn sicr y byddaf finnau wedi eu canlyn; pa beth, tybed, ydyw marw? A ydynt hwy, ac a fyddaf finnau, yn bodoli mewn rhyw ddull ar ol marw, ynte a ydyw angeu yn rhoddi terfyn llwyr a hollol ar ddyn ? Os nad ydyw, beth fydd sefyllfa, neu wahanol sefyllfäoedd, dynion y tu draw i angeu ? A oes adgyfodiad i'r corff? Os oes, beth fydd sefyllfa yr enaid hyd adgyfodiad y corff? Pa fath fydd y corff a adgyfodir ? Ymha ddull, ac ymha le y byddwn yn bodoli ar ol yr adgyfodiad,? Pa beth fydd ein gwaith ? ac felly ymlaen.— Ond er mor bwysig ydyw yr ymofynion hyn, ac er mor agos ydyw eu cysylltiad â ni, y mae yn rhyfedd mor ychydig o sylw a delir iddynt gan y cyffredinolrwydd o blant dynion. Ymfoddlonir ar ychydig o addef- iadau cyffredinol o berthynas i angeu, adgyfodiad, barn, a byd arall. Ymesgusodir gyda dyweyd fod y dyfodol yn dywyll, gwarafunir pob tuedd i ymchwilio yn ei gylch hyd y gellir, fel y caffo y meddwl hamdden i ymdaflu yn fwy llwyr a dirwystr i'r presennol a'i helyntion. Ceir esgeulusdra cyffelyb ar ran y lliaws ynghylch holl wirioneddau mawrion crefydd, a hyny oblegid yr un rheswm. Y maent yn perthyn i'r dyfodol, ac i raddau mwy neu lai i'r anweledig; ac y mae y presen- nol a'r gweledig yn llanw meddyiiau dynion, yn cymeryd eu hamser a'u sylw mor llwyr, ac yn eu gwthio ymlaen mor ddiorphwys, fel nad ydynt yn cymeryd hamdden i feddwl ond ychydig, neu ddim i bwrpas, am y pethau mawrion sydd i gymeryd lle ar ol hyn. Achos arall o'r esgeulus- dra hwn ydyw, fod dynion, o herwydd y gwahanol a'r croes farnau, syniadau, a dychymygion a goleddir ac a ddysgir gan feirdd, athronwyr» 1877,—3» »