Skip to main content

Y TRAETHODYDD. CARTREF. Is goledni glwys gloewiief—Eden dêg Dan dô oedd fy Nghartref; Liw nos, ai ymyl y Nef—a welwyd Yn fy mreuddwyd, oedd fy more haddef! Mae cofion am dano 'n d'od I'm monwes â grym hynod, Ac aml awr cwmwl hiraeth—a dòra Uwch dwyrain bodolaeth; D'iau 'n nos ei gysgod wnaeth Holl nawn Gorllewin hênaeth! Hen ŵr wyf ar f în yr afon—olaf,— Ai 'm hanwyliaid ffyddlon O'r tu hwnt i rydau hon,—glywaf fi I'm croesawi, o'm cur, i S'ion ? Aelodau yr hen le ydynt, Ië, o'r Hen Gartre' gynt! Er eu bod uwch marw byth, Yn dal coronau dilyth, Y7r un byth er eu hnen bêr Yw tôn eu lleisiau tyner ! Fy chwaer Ann wrth fy ochr i Sy 'n f' aros, a nifeii O anwylion fy nghyn helynt Wnaent yn nef íy hen Gartref gynt. Llawn o buredd fu 'nghyfeillion borau, Llawn o gariad, y cyfeillion gorau Dichwerwedd, fu 'n cydchwarau—mor llonrydd Trwy eu gilydd, ger y Cnrtre' golau. 1876.—1 A