Skip to main content

Y TRAETHODYDD. GWLEIDYDDIA.ETH A CHREFŸDD. Y mab llawer o ddynion gwir dda yn ein gwlad sydd yn wrthwynebol iawn i bobl greíyddol ymyraeth o gwbl â phethau politicaidd, gan dybied fod gwleidyddiaeth yn beth nad yw yn perthyn iddynt. Edrych- ant ar^grefyddwyr fel dinaswyr gwlad a theyrnas arall a gwell, ac y dylai pynciau gwleidyddol gael eu gadael i ddynion y byd, sydd yn byw yn y presennol ac er mwyn y presennol, heb roddi fawr ystyriaeth i bethau ysbrydol a phethau y byd a ddaw, " y rhai sydd yn synied pethau daearol." Mae ganddynt lawer o resymau o blaid eu golyg- iadau. Maent yn edrych ar wleidyddiaeth fel pwnc mor gynhyrfus, a phwnc sydd yn cymeryd gafael yn y meddwl i'r fath raddau, fel pan y rhoddir sylw iddo na theimlir fawr duedd i dalu sylw i hawliau crefydd, ac i ymarfer â'i defosiynau; yn fynych hefyd ceir ei fod yn cynnyrchu teimladau chwerwon, digofus, hollol anghristionogol, rhwng dynion a'u gilydd; a chyda hyn, yn amser etholiadau yn arbenig, y mae annuw- ioldeb yn cyrhaedd pwynt uchel a rhyfygus; gwelir dynion yn rhedeg yn wyllt mewn meddwdod a drygioni o bob math; maent yn barod at unrhyw ysgelerder, fe ddywedir, er mwyn sicrhâu Uwyddiant eu plaid; ac ymysg gwleidyddwyr cyhoeddus eu hunain, y mae llawer o dwyll a chyfrwysder i'w cael, a hawdd ydyw gweled mai eu hamcan uchaf yn fynych ydyw, nid gwneyd deddfau uniawn a da, ac ymdrechu llywodraethu y wlad yn y dull goreu a mwyaf manteisiol i rinwedd a daioni, ond ennill buddugoliaeth i'w plaid. Ehaid i ni addef fod llawer o hyn yn wirionedd. Y mae Uawer o bethau ynglŷn â gwleid- yddiaeth sydd yn ein gofidio yn fawr; maent yn ddianrhydedd i'n harferiadau gwladol. Ond peth arall hollol yw edrych ar y fîfeithiau hyn fel rhesymau digonol i arwain crefyddwyr—braidd nad oeddem yn dyweyd i'w cyfreithloni—i ymgadw yn llwyr o gylch gwleidyddiaeth. Yn hytrach, oddieithr y gellir dangos—ac yr ydym yn fwy nag ammheus am y posiblrwydd o hyny—fod cymeryd dyddordeb mewn pethau gwladol ac ymdrechu o'u plaid yn ddrwg ynddo ei hun, dylai y ffeithiau hyn fod yn rhesymau paham y dylai pob dyn da ymdaflu â'i holl enaid i helyntion gwleidyddiaetb, ac ymdrechu i'w rhyddhàu oddiwrth y 1875.—4. * 2 D