Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. ATHRYLITH IORWERTH GLAN ALED. Nid ydyw treigliad deunaw gauaf wedi gallu dilëu yr argraff gyntaf a gynnyrchodd Ýsbrydion Anian ar fy meddwl. Ar brydnawn heulog yn Mai, pan newydd gael rhyddhàd o wely cystudd, aethum allan o'r dref, yn nghwmni y llyfryn newydd; ac wedi ymneillduo i unigedd Coed Ehiw Mynach, a chymeryd fy eisteddle ar Graig y Daran, tafiu golwg ar y dref drystfawr a orweddai obry o dan y colofnau mŵg, ac ar y creigiau rhamantus a ymddyrchafent o'm hamgylch, glogwyn uwch clogwyn, i'r awyr lâs, mi a ddechreuais gymdeithasu âg Ysbrydion Anian, y rhai a ymrithient i mi ar unwaith ymhob ffurf; ac, o gyflawn- der eu haelioni, a gynnygient eu holl adnoddau at fy ngwasanaeth. Yr oedd y farddoniaeth hon yn ymddangos i mi mor ddyeithr a swynol, fel o'r braidd y gallaswn ddarbwyllo fy hun nad oeddwn wedi ymlithro yn ddiarwybod i Wiad Hud, a minnau heb feddu gallu nac ewyllya i holi pa fodd y daethwn yno, na pha bryd y cawn fyned jmaith. Ond er i'r gyfaredd hono ddiflanu gyda'r gwpleg,— Deffröais a gwelais y byd Ac anian yn gwenu o'm hamgylch i gyd; eto, ni ddiflanodd yr effaith oddiar fy meddwl hyd y dydd hwn. ^n yr amgylchiad hwnw yn foddion i agor byd newydd o fy mlaen; a ^rwy daflu llygedyn o wrês i fy enaid, fy nwyn i garu barddoniaeth Sydatheimladau ag oeddent hyd hyny i mi yn anadnabyddus. Yr oeddwn wedi arfer darllen barddoniaeth yn flaenorol; ond yr oedd gweithiau trymion fel eiddo Daíydd Ionawr a Dewi Wýn i mi yn fwy I'aT^ na^ ° ^eser ; ac yr oeddwn wedi llwyr laru ar Gywyddau beger- aiad, i ofyn .« Cap)» neu „ Filiast Ddu.. neu « Bar 0 Ddillad; " ac ar H h0}1 " Garolau Plygain," a'r « Cerddi Serch," o bob math a rhyw o oedd yn arfer heigio y wlad ar hyd y blynyddoedd; ac felly hawdd i'r 1874.—3. s