Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. ANERCHTAl GWYS I'E GAD. AD LLYWYDDOL CYMANFA DDIRWESTOL AC ATTALIOL GWYNEDD, LLANDÜDNO, HYDREF 8 a'r 9, 1873. Anwyl Frodyr,—I)yma ni wedi cael y fraint o ymgynnull unwaith eto yn Nghymanfa Ddirwestol ac Attaliol Gwynedd, i fwrw golwg ar yr ymgyrch yr ydym yn ceisio ei gario ymlaen yn erbyn anghymedroldeb ein gwlad, .ac, mi obeithiaf, i ennill nerth newydd gogyíer â llafur y dyfodol. * Mae yn hawdd gweled fod genym lawer iawn o achos i fod yn ddiolchgar i Eoddwr pob daioni am ei ffafr i ni yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Y mae dirfawr lwyddiant wedi bod ar ein hachos yn Nghymru er psn gynnaliwyd y Gymanfa o'r blaen ; a phan gofiwn am flynyddoedd o farweidd-dra gyda'r achos hwn, a blynyddoedd o lafur di-gynnyrch, tra yr oedd y gelyn, o'r ochr arall, yn myned rhagddo gyda rhwysg, ac yn peri y fath anrhaith ofnadwy trwy hýd a llêd ein gwlad, y mae yn naturiol i ni ddywedyd gyda'r Salmydd duwiol, " Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen." Mae yn hawdd i ni, wrth edrych ar fawredd y gwaith sydd eto heb ei gyflawni, neu wrth edrych yn ol at gyfnod o lwyddiant dysglaer sydd wedi hen fyned heibio, ac y mae cryn nifer yn ein plith yn dueddol i edrych arno fel oes aur y diwygiad dirwestol,—mae yn hawdd i ni, meddaf, edrych lawer yn rhy isel ar fawredd y presennol yr ydym yn ein cael ein hunain yn ei ganol. Ond nid ydwyf yn meddwl fod unrhyw dymmor ar yr achos hwn wedi bod yn fwy enwog am weithgarwch penderfynol ac am lwyddiant mawr na'r tymmor hwn. Ond yr wyf yn hyderu ar yr un pryd ein bod oll yn edrych am ein llwyddiant mwyaf i'r dyfodol. Mae oes aur y crefyddau paganaidd draw yn mhellder yr oesoedd cyn-hanesiol, tra y mae y byd, o hyny ymlaen, wedi bod yn myned trwy gwrs o ddirywiad; ac nid ydynt hwy yn gallu gobeithio dioi am yr amser a ddaw. Mae gan y grefydd sanctaidd yr ydyra ni 1874.—1. a