Skip to main content

Y TRAETHODYDD. CRIST YN CYFLAWNI Y GYFRAITH. Pwnc o'r pwysigrwydd mwyaf mewn crcfydd, yn athrawiaethol ac ymarferol, ydyw medru cadw y bcrlhynas a'r gwahaniaeth sydd rhwng y Ddsddf a'r Efengyl—y ddwy oruchwyliaeth, neu y ddau destament— mewn cydbwysedd cywir, heb fod y naill yn gorraesu ar y llall. Os pwysir yn ormodol ar y berthynas, fel ag i golli golwg ar y gwahan- iaeth, arweinia hyny ar unwaith i pharisëaeth a deddfoldeb; ac o'r tu arall, os pwysir yn ormodol ar y gwahaniaeth, fel ag i golli golwg ar y berthynas, arweinia hyny yn uniongyrchol i Antinomiaeth a phen- rhyddid—dau o'r cyfeiliornadau mwyaf peryglus a dinystriol—cyfeil- iornadau ag y mae ein syniadau trofaus a'n natur lygredig yn dra thueddol i syrthio iddynt, îe, i syrthio i'r naill wrth geisio gochel y llall. Trwy gadw y ddau beth yma mewn cydbwysedd cywir yn unig, y gellir hwylio yn dd'iogel megys rhẃng Scylla a Charybdis, a chyraedd i borthladd diogel yr efengyl. Egluro y pwnc pwysig hwn ydyw amcan y Dysgawdwr Mawr, mewn un adran o'r bregeth ar y mynydd, sef yr adran sydd yn cynnwys Matthew v. 17—48. Yn yr eglurhâd gogoneddus hwn, y mae y Prophwyd Brenhinol yn cyhoeddi cyfreithiau a rheolau teyrnas nefoedd, fel y mae yn darlunio ei deiliaid yn yr adran flaenorol. Wedi i ras y gwýnfydau ffurflo y deiliaid, y mae gwirionedd y ddeddf yn cyhoeddi y cyfreithiau; ac felly y mae y bregetb, fel y pregethwr ei hun, " yn llawn gras a gwirionedd." Yn ei addysg fel yn ei aberth, y mae " trugaredd a gwirionedd wedi ymgyfarfod, cyfìawnder a heddwch wedi ymgusanu." Testun—neu fel y dywedir weithiau— conception yr adran hon ydyw adn. 17,—" Na thybiwch fy nyfod i dòri y gyfraith neu y prophwydi; ni ddaethum i dòri, ond i gyflawni." Nid pwnc y bregeth ydyw ypmon, ond y deyrnas; eto, y mae y person yn ymwthio i'r golwg ar adegau yn ei fawredd a'i ogoniant, gyda sydynrwydd megys pelydriad yr haul rhwng tòriad y cymylau. Yn adn. 11, daw i'r golwg am y tro cyntaf, yn yr ymadrodd, "Er mwyn fy enw i." Yma daw i'r golwç? drachefn yn íwy dysglaer fyth : " Na thybiwch fy nyfod i dòri, &c." Ië, y mae yn 1871—4. 2 o