Skip to main content

Y TRAETHODYDD. Y CAETHGLUDIAD BABYLONAIDD. Ehwng caethgludiad y deg llwyth a chaethgludiad meibion Judah y cẃympodd Nineíeh a'r ymherodraeth Assyriaidd, ac y cyfododd Babylon fel aeres i'w meistres yn arglwyddes y teyrnasoedd yn ei lle. Gelwid llywodraethwr Babylon yn frenin cyn yr amgylchiad hwn. Yn y daflen o enwau breninoedd Caldea, o'r fl. C.C. 747 hyd amser Alexander Fawr, a geir mewn gwaith seryddol o awduriaeth Ptolemy, y pedwerydd ar ddeg yn y rhestr yw Nabopolassar. Càn belled ag y mae a wnelo y daflen hono â'r mater, ni osodir ef allan fel y cyntaf o'r urdd, nac fel un yn rhagori ar ei ragflaenwyr; ond ymddengys mai hwn yn briodol oedd brenin cyntaf Babylon. Talaeth oedd Caldea cyn hyn, yn meddu mwy o annibyniaeth na'r taleithiau eraill mae yn wir, ond eto yn ddarostyngedig fel hwythau i ymherodraeth Aesyria. Yn ol Berosus, hanesydd Caldëaidd o awdurdod uchel, enw brenin diweddaf Ninefeh oedd Saracus, a chredir mai yr un ydoedd a Sardanapolus y Groegiaid. Tybir hefyd mai mab ydoedd i Assher-emit-eli, y diweddaf o frenhinoedd Assyria y ceir ei enw ar y meini coffadwriaethol. Ac os yw y dybiaeth hon yn gywir, gwelwn y bu raid i'r hwn a fu mor ddiymadferth a gadael i'r goron syrthio oddiar ei ben, foddloni i'w enw fyned i radd helaeth o ebargofiant. Diarddelwyd ei entv o blith enwau brenhinoedd. Trwy beidio cerfio ei enw yn llechres y brenhinoedd, dilëwyd mewn rhan ei goffadwriaeth. Erbyn amser y penadur eiddil hwn, yr oedd y Mediaid wedi ymgryfhâu yn ddirfawr, ac yn barod i wneyd ymosodiad ar Ninefeh dan lywyddiaeth Cyaxares. Yr oedd y Caldëaid a'r Susaniaid hefyd yn barod i ymuno á r Mediaid i wneyd yr ymosodiad. Y pryd hwn y penodwyd Nabopol- assar gan frenin Ninefeh yn gadben ar ran o'i fyddin, ac y rhoddwyd jddo lywyddiaeth y milwyr oedd yn Babylon. Ond yn Ue parhâu yn nyddlawn i'w íeistr, trôdd Nabopolassar yn ei erbyn, ymgynghreiriodd â Cyaxares i warchae ar Ninefeh. Wedi sefyll am ychydig yn erbyn y §£Uuoedd gelynol, ymneillduodd Saracus mewn anobaith i'w balas, rnoddodd ei dý ar dân â'i ddwylaw ei hun, a bu farw yn nghanol ei