Skip to main content

Y TRAETHODYDD. Y GWYNFYDAU. Y mae "y bregeth ar y myaydd" ya ffurfio rhau bwysig, addysgiadol, a dyddorol iawn, o'r Testament Newydd. Yma y mae y Brenin- Brophwyd Dwyfol yu gosod i lawr egwyddorion a rheolau ei deyrna3 íawr ar y ddaear. Yn y wêdd yna y mae traddodiad y bregeth ar y niynydd yn cadw lle cyfatebol yn y Testament Newydd, i gyhoeddiad y ddeddf oddiar fynydd Sinai yn yr Hen Destament, pryd y sefydlwyd y ddwyfiywiaeth Iuddewig. Nid yw Dwyfol ysbrydoliaeth wedi gweled yn dda hysbysu i ni oddiar pa fynydd y Uefarwyd y bregetb, fel y gwnaeth gyda golwg ac gyhoeddiad y ddeddf. Dichon mai amcan hyny ydyw dangos fod " Teyrnas Nefoedd" yn ëang ac ysbrydol, heb fod yn dal perthynas â lle, fel y theocracy, yr hon oedd yn cael ei nodweddu i raddau mawr gan gyfyngder ei hysbryd a llëoldeb ei sefydliadau. Ar yr un pryd y mae yu eglur mai oddiar un o fynyddoedd Galilea, yn nghymydogaeth Môr Tiberias, y llefarwyd y bregeth, lle yr oedd yr olygfa natuiiol yn wir brydferth ac arddunol, yr awyr yn glir, y nefoedd yn ddysglaer a digymylau, yr hyn oedd yn ffurfio cyferbyniad tarawiadol i'r clygfa erch, bruddaidd, gymylog, ac ofnadwy, yn Sinai. Yr oedd y ddwy olygfa yn nodweddiadol o'r ddau amgylchiad hynod a phwysig. Golygir gan rai mai yr un a'r unrhyw ydyw y bregeth a gofnodir gan Matthew (v.—vii.) â'r hon a gofnodir gan Luc (vi. 20—49), ond fod yr olaf wedi rhoddi crynhöad cynnwysfawr o'r materion, pryd y ceir hi yn gyflawn yn ei manylion gan y cyntaf. Y rhesymau a ddygir ymlaen o blaid y golygiad ydyw, 1. Fod y ddwy o ran sylweàd yn hollol yr un peth. 2. Fod yr un hanes yn dilyn gan y ddau efengylwr, sef iachàd gwas y canwriad. 3. Nad yw pob gwahaniaeth yn y manylion ond ymddangosiadol, ac y gellir yn hawdd eu cysoni; megys, pan y dywed Matthew ei bod wedi cael ei thraddodi ar " fynydd," a Luc ar " wastadtir," y gellir yn hawdd deall fod " gwastadtir " Luc ar ben " mynydd" Matthew, fel y lle mwyaf manteisiol i'r dyrfa sefyll i wrando. Yr ydym yn teimlo ar unwaith mai eiddil ac anfoddhäol iawn ydyw y cyfryw resymau, pan 1871—1. a