Skip to main content

Y TRAETHODYDD. EMYNYDDIAETH. VIII. í FARCHEDIG WILLIAM WILLIAMS, PANTÍCELYN, A*I HÎMNAD. RHAN II. O holl gynnyrch yr awen, barddoniaeth grefyddol yw yr hyfrytaf a'r faddiolaf, ac yn ddiammheu y mwyaf ëang ei dylanwad. Ei phrif amcan yw dwyn ymlaen achos crefydd a duwioldeb; ac wrth ddifyru, y mae, ar yr un pryd, yn gwellâu ac yn ehangu meddwl y sawl a ymgynnefino â hi. Yr Emyn yw y rhywogaeth fwyaf cyffredin o farddoniaeth grefyddol. Mae hon, trwy ei bywiogrwydd, ei gwresog- rwydd, a'i nefoleiddrwydd, yn denu serch a hoffder dynion o'r galluoedd cryfaf, a'r meddyliau mwyaf coeth a diwylliedig, ac yn gweinyddu mwynhâd, cysur, tangnefedd, a chynnaliaeth, dan bob math o amgylch- iadau pwysig bywyd, ac yn oriau cyfyng marwolaeth, i bob graddau a chyflyrau o ddynion,—ymherawdwyr, brenhinoedd, tywysogion, gwleid- yddion, cyfreithwyr, athronwyr, dysgedigion, diwygwyr, cyffeswyr, merthyron, bonedd, a chyffredin; ie, y dosbarth mwyaf gwerinaidd hefyd, y rhai ni chyfrifent gerdd orchestol, arwrawl, ond megys ffiloreg ddiles. Nid yw yr emyn yn blino y meddwl âg olrheiniadau dyrys, rhesymau dyfnion, a thraethiad manylaidd ar bynciau tywyll; ond, yn hytrach, mae yn gwisgo y gwirioneddau symlaf a phwysfawr- ocaf yn y dull mwyaf deniadol, gan eu gosod allan drwy ffugyrau bywiog, mewn ymadroddion cryno, eglur, ystwyth, a pherseiniol, nes y mae yn deffro holl alluoedd yr enaid, ac yn gosod y serchiadau a'r nwydau megys ar dân. Mae yr emyn, fel offeryn defnyddiol, yn peri i sylweddau pwysfawr crefydd gael argraff ddwys ar y galon; mae yn ennyn crefyddgarwch duwiolion, yn gosod edmygedd gogoneddus ar gynnulliadau crefyddol, ac yn parotôi y saint i'r llawenydd annhraeth- adwy, y gorfoledd diderfyn, a fwynhânt yn nghymdeithas nefolion yn ngwlad y purdeb. Cafodd miloedd ar filoedd o anwylion y nef y fraint o groesi drosodd i dir bywyd yn orfoleddus iawn, a hymnau duwiol, blith draphlith âg addewidion cysurlawn y Bibl, ar eu gwefusau hyd eu hanadliadau diweddaf, nes eu myned yn rhy bell i glywed eu hadsain mwy yr ochr yma i'r llîf a'r tònau. Mawr yw anrhydedd y rhai a gawsant eu tueddu i gyflwyno eu hathrylith a'u doniau i adeiladaeth a chysur duwiolion yn y modd hwn yn arbenig, yn gystal ag mewn pethau eraill. 1870.—4. c 2