Skip to main content

Y TEAETHODYDD, CYMDEITHAS GENADOL Y BEDYDDWYR. Y mae hen annedd-dŷ yn nhref Eettering, yn swydd Northampton, yr hwn a breswylid yn y ganrif ddiweddaf gan foneddiges o'r enw Mrs. Beeby Wallis, yr hwn a elwir hyd heddyw yn "Dŷ y Genadaeth," am mai yno, Hydref 9U, 1792, y sefydlwyd Cymdeithas Genadol t Bedyddwyr, gan ddeuddeg o weinidogion distadl ac anenwog, y pryd hwnw. Y mae hyn yn ffaith hanesýddol bellach, ac yn gyfnod mewn cysylltiad âg achos pwysig cenadaethau cristionogol at y paganiaid. Rhoddes íywyd newydd yn eglwysi Crist, a deffrôdd hwynt at eu dyledswyddau pwysig o geisio dychwelyd y byd. Yr oedd ymdrechion canmoladwy wedi cael eu gwneuthur o'r blaen i ddanfon yr efengyl i'r pagan, ac amryw ddynion galluog ac aiddgar wedi bod ar y maes. Yn 1705, sefydlwyd cenadaeth Brotestanaidd yn Tranquebar, ar " draeth Coromandel," dan nawdd Frederick IV., brenin Denmark. Y cenadon cyntaf oeddent Ziegenbalg a Grundlerus ; dilynwyd hwy gan y twymn- galon Eiernandier, ac eraill, ac yma y bu Schwartz yn cyhoeddi fod bywyd Yn angeu y Groes i baganiaid dwyreinfyd. Bu Mr. Charles Grant, un o weision Cwmni yr India Ddwyreiniol, a Dr. Thomas, meddyg yn y llynges, yn ceisio gwneuthur rhywbeth dros India, mewn ystyr grefyddol, o 1783 hyd 1786; ond bu y cwbl yn ofer, canys yr oedd y Cwmni gartref yn anfoddlawn i'r mudiad, ac yr oedd y Llywydd Cyffredinol, Arglwydd Cornwallis, yn troi y glust fyddar atynt; ac er i Wilberforce, gyda ei hyawdledd arferol, osod y pwnc o flaen y Senedd, a cheisio cael dodi adran yn y freinlen newydd ag oedd ar gael ei rhoddi i'r Cwmni, yn ffafriol i efengyleiddio India, ofer fu hyny. Bu y Morafiaid hefyd, o dan Count Zinzendorf, yn gweithio yn ganmoladwy yn yr India Orllewinol ac yn Greenland mor fore a 1732, ac y maent yn para i weithio yn anrhydeddus hyd heddyw. Cawn Eglwys Loegr, yn 1701, yn sefydlu y Gymdeithas er Lledaenu yr Efengyl mewn Parthau Tramor, amcan yr hon oedd parotôi ar gyfer angenrheidiau ysbrydol y trefedigaethwyr Prydeinig, a lledaenu yr efengyl ymysg brodorion y gwledydd tretedigaethol. Bu John Wesley yn genadwr drosti yn y trefedigaetb.au Americanaidd; ond nid ydym yn gwybod iddi wneuthur dim dros efengyleiddio y pagan hyd iddi gymeryd i fyny genadaeth y Daniaid ÿn India Ddeheuol, yn gynar yn nechre y ganrif bresennol. Cyfrifwn, gan hyny, mai Hydref 2il, 1792, oedd dydd genedigaeth anturiaethau cenadol y blynyddau canlynol. a,