Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

—... Y TRAETHODYDD. — Y GAREG YN LLEFAIN O'R MUR. Y mae dyweyd fod yr oes hon yn oes ryfedd yn beth nad oes dim rhyfedd ynddo, o herwydd ei fod yn ddywediad a arferir mor aml, ac a gydnabyddir yn wirionedd mor amlwg achyffredin. Ond y mae rhyw- beth hyd yn nôd yn hyn yn brawf o'r gwirionedd wedi y cwbl—oes ryfedd ydyw yr oes yr ydym ni yn byw ynddi. Un o nodweddion rhyfedd yr oes hon yw yr ysbryd ymchwilgar a'i meddianna. Týr yr ysbryd hwn allan mewn amryw ffyrdd. Dan ei ddylanwad ymffurfia rhai yn gwmniau i archwilio cilfachau ac arwyneb moroedd pellenig a dyeithr; eraill i archwilio arwynebedd y ddaear. Eraill, drachefn, dan ddylanwad yr un ysbryd, a dremiant ar wyneb y nefoedd, i chwilio am ryw fyd newydd yno, neu am ryw ryfedd- od newydd yn yr hen fydoedd adnabyddus iddynt o'r blaen. Ac nid yw yr ysbryd rhyfedd hwn yn yrafoddloni ar archwilio a dyfod o hyd i ryfeddodau wyneb y grëadigaeth—wyneb y nefoedd a'r ddaear; ond rhaid iddo dòri trwy yr arwyneb, a disgyn i'r dyfnder, a chwilio cilfach- au hwnw; ac esgyn i'r uchelder, a syllu ar a mesur ystafelloedd hwnw hefyd: nid boddlawn meddwl dyn, dan ddylanwad yr ysbrydiaeth yma, heb ymgydnabyddu â phob dyeithrwch, a meistroli pob peth dirgel. A mawr fel y mae yr ysbrydiaetb yma yn cael ei wroli a'i gefnogi i fyned ymlaen yn ei anturiaethau y dyddiau hyn, trwy ei lwyddiant, a'i gwobrau rhagorol a ddeillia iddo drwy ei anturiaethau diweddar. Un o anturiaethau diweddaf yr ysbryd hwn yw y gymdeithas a ffurfìwyd yn ddiweddar i chwilio pa beth sydd gan yr hen Jeru3alem gynt—yn awr yn adfeilion claddedig odditan seiliau y Jerusalem sydd yn aros—i'w ddyweyd wrthym ni yn y dyddiau hyn. Ac y mae yr anturiaeth hon eisoes yn dechreu talu yn dda. Diau y bydd llawer o'r tystion i wirionedd y Bibl yn cael eu hadgyfodi o hen adfeilion sydd dan seiliau y ddinas sanctaidd, ac y bydd yma faes ëang ac iachus i ryw un cyfarwydd i arwain darllenwyr y Tbaethodydd iddo cyn hir. Ond y tro hwn, modd bynag, ni fydd i ni fyned â'r darllenydd yn llawn càn belled a Phalestina a Jerusalem—aroswn ychydig yn nês gartref; tröwn i Rufain, dinas, os yn ddiweddarach, nid llawer llai enwog, ac edrychwn beth allwn ni ganfod yn y lle rhyfedd hwn. Ond ni wnawn geisio tywys y darllenydd y tro hwn ychwaith i gael cymaint â chipolwg ar yr oll o brif ryfeddodau y ddinas enwog hon; pallai yr amser i ni a'r darllenydd. Ac o herwydd fod ein hamser a'n gofod yn fýr, y ffordd oreu i ni yw disgyn ar ryw un peth yn ein taith ymchwil- iadol drwy y ddinas fawr hon, a cheisio ei efrydu dipyn yn drwyadl; 1870—1. a