Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DELW Y DUW ANWELEDIG. " * * * yr hwn yw delw Duw."—2 Cor. iv. 4. " Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob crëadur."—Col. i. 15. " Yr hwn, ac efe yn ddysgleirdeb (dysgleiriad allan) ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson (ei hanfod) ef."—Heb. i. 3. Y mae yn hysbys fod yr ymadroddion hyn oll yn golygu yr Arglwydd Iesu Grist—yr Ail Berson yn yr Hanfod Dragywyddol. Ac y maent nid yn unig yn cyfeirio ato Ef yr hwn yw yr Ail Berson, ond y mae sylfaen y cwbl a ddywedir am dano yma i'w chael yn neillduolrwydd ei Berson fel Mab Duw. Am ei fod yn Fab Duw, y mae yn ddelw Duw ; ac am ei fod yn "ddelw Duw," y mae yn " gyntaf-anedig yr holl grëadig- aeth"—yn hanfodol gymhwys i fod yn gyfrwng pob dadguddiad o'r Duwdod mewn natur a gras. Y mae y geiriau uchod yn wir am dano mewn dwy ystyr—fel y mae yn Berson Dwyfol, ac hefyd fel y mae yn Gyfryngwr. Ond nis gallasent fod yn wir am dano fel Cyfryngwr, oni buasai eu bod yn wirionedd am dano fel Person yn y Drindod Fendigaid. Mewn geiriau eraill, y mae y Bibl yn ein dysgu mai Duwdod y Mab ydyw sylfaen ei gyfryngdod; ac nid hyny yn unig—nid y cymhwysder ydyw ei fod yn berson dwyfol yn unig, ond ei fod y person neillduol ag ydyw, sef yr ail Berson—y Mab,—y mae trefn ogoneddus y gweithred- iadau dwyfol, mor bell ag y rhoddwyd i ni i'w canfod yn ngoleuni dad- guddiad, yn rhoddi ar ddeall i ni mai hyn ydyw gwreiddyn ei gymhwys- der i fod yn " Gyfryngwr rhwng Duw â dynion;" fel ag y mae ei fod "y dyn Crist Iesu," wedi ei fedyddio â bedydd gwaedlyd y groes, yn berffeithiad ar y cymhwysder hwnw. Yr oedd tragywyddol rinweddau yn ei Berson ag ydoedd yn ei gymhwyso i fod yn Iachawdwr i'r crëadur hunan-ddinystriedig; ac eto yr oedd yn rhaid ei "berffeithio yn Dywysog Iachawdwriaeth trwy ddyoddefiadau." Sylfaen ei gymhwysder i'w waith fel yr Adferwr Mawr oedd ei fod yn Fab; ni fuasai neb ond Duw, na neb ychwaith ond Mab Duw, yn addas i'r swydd hon: ond "er eifod yn Fab," yr oedd yn rhaid iddo yntau " ddj sgu ufudd-dod trwy y pethau a ddyoddefodd," mewn trefn i'w " berffeithio " yn " Awdwr iachawd wriaeth dragywyddol i'r rhai oll a ufuddhânt iddo." Ond yr ydym yn tybied fod y gwirionedd yna yn cael ei addef a'i ddeall yn fwy cyffredinol na'r gwirionedd cyferbyniol yn y gosodiad, sef—na buasai yn bosibl ei " ber- ffeithio yn Awdwr iachawdwriaeth," na'i " wneuthur " yn Waredwr trwy unrhyw oruchwyliaeth mewn amser, oni buasai am y tragywyddol gymhwysder oedd yn hanfodol yn ei Berson i ymgymeryd yn llwyddian- nus â'r holl waith. Er mwyn ceisio dwyn y gwirionedd pwysig a 18Ü9—3. s