Skip to main content

•" Y TRAETHODYDD. CENADAETH DRAMOR Y WESLEYAID. Y ma.e crefydd y Bibl yraliob oes wedi bod o natur ymdaenol, ac wrth ymledu o galon i galon, ac o ardal i ardal, ni chollai ddim o'i nerth na'i phrydferthwch. Ceir ambell i brophwyd yn llafurio tu hwnt i derfynau ei wlad ei hun, naill ai mewn caethiwed, neu trwy anfoniad pendant Duw, at bobl baganaidd. Darfu i lawer o genedlddynion, o bryd i bryd, gael eu dwyn i oleuni gwir Iuddewiaeth. Ond ar ol adgyfodiad ac esgyniad y Prynwr y cymerodd crefydd ei chymeriad cenadol yn yr ystyr ehangaf; yr oedd yr efengyl yn cael ei phregethu i'r holl genhedloedd; y maes oedd y byd; lle bynag y byddai dynion, yr oedd gorchymyn i gyfodi baner y groes yn eu mysg. Cawn ddysg- yblion ac apostolion yr Arglwydd Iesu, yn ddioed ar ol ei esgyniad i'r nefoodd, a dyfodiad dydd y Pentecost, yn llafurio i weithio allan eg- wyddorion cenadol yr oruchwyliaeth newydd. Yr oedd amseroedd yr anwybodaeth wedi myned heibio, a'r gorchymyn wedi myned allan i bob dyn yinhob man i edifarhàu. Y mae holl fywyd apostolaidd Paul yn wir genadol; ac y mae ei brif deithiau, gan ddechreu yn Ahtiöcoiai" yn Syria, yn gynllun mewn egwyddor, ysbryd, a llafur, i holl weinidog- ion y Testament Newydd. Yr oedd agos y byd adnabyddua y pryd hwnw yn gylch llafur Paul. Ymdaenodd yr efengyl fel adenydd y wawr dros diroedd tywyll y byd. Yr oedd y deuddeg ých a ddalient fôr pres y brenin Solomon yn edrych tua phob c\vr o'r-byd, yn lledvar- wyddo y prysurai cenadon hêdd i bob gwlad i fynegu cynghor Duw. Ar ol oesoedd o lwyddiant, y mae yr eglwys fawr gyffredinol yn ymgy- sylltu à llywodraethau gwladol, yn ymddyrysu mewn dadleuon fíyrnig a chyfeiliornadau marwol; colíwyd syniledd cyntefig crefydd; daeth defodau dyeithr a lli'osog i mewn ; collwyd bywyd ysbrydol; aeth preg- ethu Crist i'r cysgod, a'r Bibl bron o'r golwg yn llwyr. Aeth y goleuni ag oedd yn yr eglwys bron oll yn dywyllwch; a pha íaint oedd y tywyll- wch hwnw, Duw yn unig a ŵyr. Eglwysi llygredig y Dwyrain a'r Gor- llewin oedd yn bob peth am oesoedd lawer. D'iau fod gweddill pur yma a thraw heb blygu eu gliniau i eilunaddoliaeth Rhufain, nac i gyfeiliorn- adau amrywiol yr eglwys Ddwyreiniol. Anfonwyd lli'aws o genadon, dan nawdd y Pabau, gan Eglwys Rufain am ganrifoedd; ond ni fedodd y gwledydd fawr lês oddiwrth y cenadon Pabaidd. Lledanwyd Cristionogaeth dan ffurfiau erchyll, annaturiol, a drwg. Hyd yn nôd ar ol y Diwygiad Protestanaidd yn Ewrop, yr oedd y llèni yn aros ar yr eglwysi i fesur mawr. Yn wir, yr oedd eu gwaith yn gartrefol yn benaf; ymdrechent am ryddid gwladol a chrefyddol, ac 18(30.-1. . A