Skip to main content

Y TRAETHODYDD. GWLADWRIAETH PLATO. 111. Cofüs gan y darllenydd mai y gofyniad gyda'r hwn y cychwyna Plato ydyw, Pa beth yw cyfiawnder? a'i fod yn amcanu ei ateb trwy roddi desgrifiad o gymdeithas wladwriaethol. Ond i*welsom eisoes mai ofer oedd y cais i ddyfod o hyd i gyfiawnder yn y wladwriaeth isaf a symlaf, yr hon sydd yn amddifad o athroniaeth. Bellach, y mae yn anghen- rheidiol i ni ffurfio syniad am wladwriaeth athronyddol a pherffaith, gan obeithio darganfod yn hono ymha le yr ymguddia gwrthddrych ein hymchwiliad. Ond y mae dwy ffordd i wynabu ar y gorchwyl hwn, sef un ai portrëadu y wladwriaeth ar ddelw bur a digymysg y drychfeddwl o hóni, neu ynte olrhain y cynllun mor gywir ag y byddo modd yn hanesyddiaeth y byd a nodweddion y natur ddynol. Gwell, mae yn wir, a fyddai y dull cyntaf, pe byddai yn ein gallu i ddisgyn oddiwrth y drychfeddwl gwirioneddol. Ond gan ein bod mewn perygl o dwyllo ein hunain â rhith, a chan mai ein hamcan ydyw dyfod o hyd i'r drych- feddwl o gyfiawnder, yr hwn, mae yn eglur, ydyw enaid gwladwriaeth, rhaid i 'ni ymfoddloni ar esgyn o rîs i rîs oddiwrth yr hyn a welwn o flaen ein llygaid, ac a deimlwn ynom ein hunain, hyd at y drychfeddwl pur. Wedi hyny ni a allwn ddychwelyd ac esbonio yn ngoleuni y drychfeddwl yr holl bethau a'n harweiniodd ato. Yn unol â hyn, ni a gawn Plato, yn y lle cyntaf, yn dadblygu y wladwriaeth berffaith o'r wladwriaeth iselaf a ddichon fod, ac, wedi penderfynu trwy hyny pa beth yw y drychfeddwl o gyfiawnder, yn ail bortrëadu y wladwriaeth berffaith yn unol â'r drychfeddwl hwn. Teimla yr efrydydd yn barod i dybied weithiau fod yr edau yn dyrysu yn nwylaw yr athronydd, gan ei fod yn y rhanau olaf o'r " Wladwriaeth " fel pe bae yn ail ddechreu ac yn dychwelyd ar ei lwybr. Er enghraifft, yn y trydydd llyfr gosodir o'n blaen gynllun rhagorol o addysg; ond erbyn i ni ddyfod i'r seithfed llyfr, gwynebwn ar gynllun arall o addysg, yr hwn sydd yn llawer mwy cywrain ac athronyddol na'r llall. Ond yr eglurhâd ydyw, fod Plato yn desgrifio y wladwriaeth berffaith, yn gyntaf, càn belled ag y gellir olrhain ei hegwyddorion yn y byd o'n hamgylch, ac yn y ddynoliaeth o'n mewn, yn nghanol egwyddorion gwrthwynebol oddiallan iddi, ac yn wyneb tuedd gynhenid i ymlygru ynddi ei hunan. Wediesgynyny dull hwn at y drychf eddyliau, amcana ffurfio gwladwriaeth berffaith yn unol â'r drychfeddyliau, a dengys pa fodd yr ymddadblyga rhai drychfeddyliau, megys daioni, yn weithredol yn y byd yn ol rheol a chynllun drych- feddyliau eraill, megys cyfiawnder a doethineb. Esgyna o'r gweith* 1868.—4. 8o