Skip to main content

Y TRAETHODYDD. Y BWCH DIANGOL. "A gosoded Aaron ei ddwylaw ar ben y bŵch byw, a chyffesed arno boll anwiredd meibion Israel, a'u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bŵch; ac anfoned ef ymaüh yn llaw gŵr cymhwys i'r anialwch. A'r bẃch a ddŵg eu holl anwiredd hwyut arno i dir neillduaeth; am hyny hebrynged efe y bŵchi'r anialwch."—Lefiticüs xri. 21, 22. Yr ydym yma yn cael ein cyfeirio at un o seremon'iau pwysig gŵyl y cyminod; y dydd mawr blyayddol yn Israel ar ba un y byddai yr arch- offeiriad yn gwneuthur cymmod neu ddyhuddiant, yn yr ystyr arwydd- ocäol a chysgodol, dros bechodau y genedl am y flwyddyn. Ymysg pethau eraill oedd i gymeryd lle ar y diwrnod arbenig hwn, yr oedd dau í'ŵch i gael eu gosod wrth ddrws pabell y cyfarfod, un i'w ladd, a'r llall, fel y darllenwn yma, i'w anfon i'r anialwch. Ond er fod yno ddau fŵch, nid oeddynt i'w hystyried ond yn un aberth. " A chymered," meddir am Aaron, " gan gynnulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech- aberth; " nid yn bech-ebyrth, ond yn bech-aberth. Un pech-aberth y golygid y ddau fŵch. Yr oedd y ddau gyda eu gilydd i wneyd i fyny un aberth, am nad oedd yn bosibl i un bŵch allu gwasanaethu fel arddang- osiad cyfiawn o'r hyn öli oedd ofynol i'w wneuthur er maddeuant; ac felly yr oedd yr hyn a wneid gyda y bŵch byw yn barhâd, yn gwblhâd, ac yn eglurhâd pellach, o'r hyn a wnaethpwyd gyda y bŵch a laddwyd. Yr oedd y cymmod trwy waed y bŵch lladdedig wedi ei wneuthur yn ddirgel, oddifewn i'r wahanlen, yn y cysegr sancteiddiolaf, lle nad ydoedd neb ond Duw a'r archoffeiriad. Ond yr oedd o bwys i feibion Israel gael gwybod fod y drafodaeth drostynt, yn nirgelfa y babell gyda Duw, yn dderbyniol a llwyddiannus; a chan hyny wele iddynt yn nghyfíesiad yr anwiredd ar y bŵch diangol, ac yn ei ollyngiad ymaith yn llaw gŵr cymhwys, arddangosiad gweledig o wir natur a phwysigrwydd ac effeith- ioldeb y cyfryngiad dirgel drostynt o'r tu fewn i'r wahanlen. Y mae yn amiwg fod ordinhâd y bŵch byw, yr un modd âg ordinhad- au eraill dydd y cymmod, yn edrych ymlaen at y Messiah fel y cyfeirnôd gorphenol—fel y sylwedd mawr a chyfiawn; ac y mae y ddefod osoded- ig yma yn ymddangos mor eglur a chynnwysfawr yn ei chyfeiriad at yr Arglwydd lesu Grist, fel y gallwn edrych ar hyn yn ysgrifenedig o bwrpas i eglurhàu i ni yn awr, yn gystal ag i ragddarlunio i'r Hebrëaid gynt, athrawiaeth maddeuant pechodau trwy waed ei groes ef. Gallwn edrych ar dair golygf a yn cael yma eu cyflëu o fìaen ein sylw:— y bobl yn eu hanwiredd—yr anwiredd wedi ei roddi ar aberth yn 11 e y bobl—a phellhâd yr anwiredd oddiwrth y bobl yn y canlyniad. 1868.—3. ^ g