Skip to main content

Y TRAETHODYDD. JOHN OWEN, D.D. II. Ye oedd tref henafol Colchester, yn Essex, wedi cyhoeddi ei hun er yn gynnar yn y rhyfel cartrefol o blaid y Senedd; ond yn y flwyddyn 1648, cyfododd cyíeillion Charles yn ddirybudd, a gorchfygasant hi, gan garcharu gwýr y Senedd, y rhai oeddynt yno yn arolygu y lle. Mewn canlyniad i hyn, aníonwyd Arglwydd Fairfax gyda byddin i'w hadfedd- iannu, ac i ryddhâu y carcharorion. Drwy ystod y gwarchäead, yr hwn a barhäodd am yn agos i un wythnos ar ddeg, dewisodd Fairfax Coggles- hall, drwy ei bod yn agos i Colchester, yn gadlys iddo ei hun; ac ym- ddengys iddo gymeryd Owen fel ei weinidog ysbrydol tra y bu yno. Fel hyn y dechreuodd cyfeillgarwch rhwng Owen ac Arglwydd Fairfax, a arweiniodd y blaenaf, fel y ceir gweled, i gysylltiadau tra phwysig. Ar derfyn y gwarchäead, galwyd Owen i bregethu ddwywaith; unwaith i'r fyddin yn Colchester ar ddydd diolchgarwch am ei chymeriad, a'r tro arall i'r carcharorion ar yr achlysur o'u gollyngdod. Ei destun, ar y naill amgylchiad a'r llall, ydoedd Hab. iii. 1—9. Ymhen ychydig fisoedd wedi hyn, y mae Owen yn cael ei alw i wasanaethu ar achlysur annhraethol fwy pwysig. Yr oedd Charles wedi ei gondemnio gan yr High Court of Justice fel bradwr, gorthrymwr, a llofrudd; ac mewn canlyniad wedi ei ddienyddio o flaen pyrth Whitehall. Drannoeth wedi yr amgylchiad aethus uchod, yr oedd Owen yn pregethu trwy orchymyn o flaen y Senedd. Ceir y bregeth, yr hon sydd yn sylfaenedig ar Jer. xv. 19, 20, yn argraffìad Clark. Yr oedd y testun yn rhoddi digon o le iddo drafod dygwyddiadau cyffröus y pryd; ond yn lle gwneyd hyny, cyfynga ei hunan i sylwadau ar egwyddorion cyffredinol, heb gymeryd sylw o'r gweithrediadau neillduol oeddynt ar y pryd yn syfrdanu y deyrnas. Nid oes dim yn hanes bywyd Owen sydd wedi rhoddi cymaint o achlysur i'w elynion ei gablu, ac, yn wir, i lawer o'i gyfeillion ei feio, ag ydoedd ei waith yn pregethu y bregeth dan sylw ar y fath adeg. Mýn rhai fod ei waith yn cydsynio i bregethu ar y fath amgylchiad yn dan- gos ei fod yn cymeradwyo yr hyn oll a wnaethid y dydd o'r blaen gan y Seneddwyr; mae eraill, drachefn, yn edrych ar ei waith yn osgoi heb siarad ei feddwl yn groew ar yr hyn oedd newydd gymeryd lle, fel ym- ddygiad llwfr ac annewr. Ond dyma fel y dadleua Dr. Thomson:—" Y mae y rhai sydd yn prîodoli ei ddystawrwydd i ddiffyg gwroldeb, yn cymeryd yn ganiatäol ei fod yn edrych ar ddienyddiad Charles fel trosedd anamddiffynadwy. Ond ai hyn o angenrheidrwydd oedd barn Owen? Y mae yn sicr yn bosibl, tra yn credu fod y blaid a ddygodd Charles i'r dienyddle wedi tòri llythyren y cyfansoddiad gwladol, y gallai hefyd ei fod 1868.—2. k