Skip to main content

^3 Y TRAETHODYDD. 1863.—1. GLAN ALUN. Glan Alun anwyl! fy nghyfaill hen, Goleua eto, gyda 'th onest wên, Y 'stafell fechan lle mae llyfrau 'r bardd, Yn edrych allan tros rodfëydd yr ardd: Moes im' dy law a'r ysgydwad mawr; Na chei, fy nghyfaill, ddim myn'd i lawr! Cei eistedd yna, a chawn fèr ymgom Am eisteddfo iau, ac am y siom A geir rai prydiau, a'r hyfrydwch sydd I'w deimlo weithiau wrth gario 'r dydd. Cawn son fel y gwnaethom ar lawer tro, Am benafiaethau y fro a'r fro, Am fân gwerylon rhwng plant y gân, A mân bapyrau yn myn'd ar dàn : Am y dernyn olaf fu yn y wê, Ac am y peth nesaf a ddaw i'w le,— Am wael destunau, ac am y rhes O farwnadau a wneir am brês! Yn nghanol masnach a'i dirfawr dwrdd, Faint sydd er hyny—ein diweddaf gwrdd : O, fel mae amser yn myn'd i ffwrdd ! Chwarddasom lawer, a^thafìasom wawd Ar ffug alaru tros y brawd a'r brawd, Glàn Alun anwyl, 'r wy' heno 'n dlawd ! Tylotach wy 'n teimlo, beth bynag a'm gỳr, Tylotach, unicach, a'm calon a dýr; Glàn Alun, fy nghyfaill, mae rhywbeth yn fýr! Ond eistedddi yna, cawn siarad am hyn ;— Mae 'm calon yn isel, a chodi ni fỳn, Mwy nag un farw yn ngwaelod y glýn ! Faint sydd er pan 'hedodd Bardd Clynnog i'r' nef, O'i ddaearol dý i Gaersalem dref ? Peth anhawdd yw meddwl nad byw ydyw ef!