Skip to main content

Y TRAETHODYDD. FFURF YR UN OEDD AR DDYFOD. Tua phymtheg o weithiau yr ydym yn cofio cyfarfod yn y Testament Newydd â'r gair tẂj-os-, a gyfieithir ffurf yn Rhuf. v. 14. Heblaw y gair " ffurf," yr ydym hefyd yn cael y geiriau canlynol yn sefyll am dano:— ôl, llun, portreiad, siampl, esampl, ensampl, ac ystyriaeth. Ceir ef yn ei ystyr naturiol yn Ioan xx. 25; a'r ystyr yno yw, ôl, marc, neu argraff wedi ei wneyd gan ddefnydd caled ar ddefnydd tyner. Arferir y gair am y ddelw a darewir ar fathodyn, ac am y mold i ba un y bwrir y fetel doddedig er mwyn ei chael i ffurf neillduol. Dyma y gair—yn ei ffurf Seisonig, type—a aríerir yn gyffredinol gan dduwinyddion Öeisonig am "gysgod," pan ddywedir fod un peth neu berson yn "gysgod" o beth neu berson arall, megys fod Adda neu Moses yn gysgod o Grist. Y mae ystyr y term, gan hyny, yn ein harwain i edrych am rywbeth mwy mewn cysgod na thebygrwydd noeth. Yr elfen amlycaf mewn cysgod, mae yn ddiammheu, yw tebygrwydd; ond nid pob tebygrwydd arwynebol a damweiniol rhwng dau wrthddrych sydd yn rheswm digonol dros ystyried y naill yn "gysgod" o'r llall. Rhaid fod y tebygrwydd yn myned yn ddyfnach na'r ymddangosiad—at egwyddorion; fod y naill a'r llall yn ddadblygiad o'r un cynllun, neu fod y gwrthgysgod (yr hyn sydd ar gyfer y cysgod, y sylwedd) yn cynnwys arddangosiad perffaith o'r hyn a awgrymid yn aneglur ac a arddangosid yn anmherffaith yn y cysgod. Y mae pob cysgod felly yn edrych ymlaen'at wrthgysgod, yn yr hwn y sylweddolir ei holl awgrymiadau rhagarwyddol, ac yn edrych yn ôl at y gynnelw wreiddiol a roes ffurf iddo ef. Nid ydym yn gweled un anghenrheidrwydd am wahaniaethu rhwng cysgod mewn ystyr dduw- inyddol â chysgod mewn ystyr athronyddol; oblegid er fod y blaenaf yn edrych yralaen at y gwrthgysgod, y mae yn profi hanfodiad blaenorol y gwrthgysgod hwnw fel cynnelw; ac er fod yr olaf yn edrych yn ôl at y gynnelw wreiddiol, y mae hefyd yn edrych ymlaen at ei weithiad allan a'i sylweddoliad yn ffurf berffaith gwrthddelw. Nid oes dim wedi ei brofi yn eglurach gan wyddoniaeth ddiweddar na bod yn perthyn i bob cyfansoddiad cyfluniol, pa un bynag ai llysieuol ai anifeilaidd, ryw ffurf hanfodol ag sydd yn rheoleiddio yr amrywiaeth diderfyn, gan edrych ymlaen ac i fyny at ryw ddadblygiad uwch a pher- ffeithiach o honi ei hun, ac felly yn rhoddi unoliaeth i'r cwbl. Felly yr ydys yn gweled ffurfiau uchaf y bywyd llysieuol yn edrych i fyny am ddadblygiad perffeithiach yn y bywyd anifeilaidd, a holl ffurfiau y bywyd anifeilaidd yr un modd yn pwyntio i fyny íel pe yn dysgwyl cael eu cwblhâu a'u sylweddoli yn y dyn—" uchder llwch y byd." Ac heb ym- 1866.—4. 2 o