Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TEAETHODYDD. THO-MAS GOODWIN, D.D. Fel y mae yn eithaf gwybyddus, dygwydda yn awr ac eilwaith yn hanes cenedloedd gyfnodau mawrion at y rhai y try meddyliau pobl yn naturiol gyda theimladau cymysgedig o syndod, edmygedd, a bodd- hâd. Cyfnod felly ydoedd yr un Puritanaidd yn Lloegr. Y pryd hwnw fe welodd y Goruchaf yn dda gyfodi o fewn y deyrnas hon lu mawr o dystion dros y gwirionedd, y rhai na welwyd eu cyffelyb ymhob ystyr o ddyddiau yr Apostolion hyd yn awr. Ymhlith y rhai hyn yr ydym i restru y bythglodfawr Dr. Goodwin. Er nad oedd efe mor ddwfnddysgedig ag Owen, na chwaith yn meddu ar ddwysder angerddol Baxter, nac ar ddychymyg gorffrwythlawn John Bunyan, neu ar oruch- eledd anghymharol John Howe, eto yr oedd efe yn perchenogi cyn- neddfau a galluoedd ardderchog, y rhai a sicrhäent iddo safle anrhyd- eddus ymhlith cewri dealltwriaethol ei oes. Yr ydoedd yn gristion pur, yn ysgolaig ardderchog, yn esboniwr manwl a thrwyadl, yn fugail doeth, yn bregethwr hyawdl; a thrwy ystod ei holl oes efe a fu yn weithiwr difefl yn ngwinllan ei Arglwydd. Cafodd fyw yn hŵy na llawer, oblegid pan yr hunodd yn y fiwyddyn 1679 yr oedd efe yn bedwar ugain mlwydd oed. Cofgolofnau ardderchocaf ei glod yw y cyfrolau llawnion a adawodd ar ei ol, a thrwy y rhai hyn fe drosglwyddir ei enw a'i goff- adwriaeth yn ddiammheuol i oesau pell i ddyfod. Yr ydym yn gwbl hyderus y teimla darllenwyr goleuedig y Traethodydd yn dra diolch- gar i ni am y braslinelliad canlynol o fywyd yr haeddbarch Dr. Thomas Goodwin, at yr hyn y bwriadwn ychwanegu ychydig ddyfýniadau allan o rai o'i brif weithoedd, fel y delo y rhai na chawsant hyd yma fantais i'w hastudio i feddu rhyw gymaint o gydnabyddiaeth â'r meddyliau dyfnion a geir ynddynt. Ganwyd ef mewn pentref o'r enw Eollesby, yn nwyreinbarth Swydd Norfolk, ar y 5ed o Hydref, yn y flwyddyn 1600. Efe oedd hynaf-fab ei rieni, Bichard a Catheriue Goodwin. Yr oedd teyrnasiad maith y Frenines Elizabeth y pryd hwnw yn prysur dynu tua'i derfyniad, ac yr oedd egwyddorion Puritaniaeth wedi ymledu yn rhyfedd dros y wlad er gwaethaf y rhwystra^a defiid yn eu ffbrdd gan ddynion mewn awdur- dod. Gwreiddiasai yr egwyddorion hyny yn neillduol ddwfn yn y parth dwyreiniol hwnw o'r deyrnas, ymha un yr oedd rhieni Goodwin yn car- trefu. Ni wyddys pa un a oeddynt hwy yn pertiiyn i'r blaid Buritanaidd ai peidio ; sicr ydyw, pa fodd bynag, eu bod i raddau pell dan ddylanwad yr ysbryd efengylaidd a ffynai ì'r falh fesur o'u deutu. Dygasant eu mab i fyny yn y ffordd oreu, gan ei ddysgu o'i febyd i wybod yr Ys-: 1866.—3, s