Skip to main content

4ì Y TRAETHODYDD. YR EGLWYS WLADOL. [Fraser's Magazine, May, 1864. Art.: "The Privy Councü and the Ghurch of England." Fraser's Magazine, February, 1865. Art.: " What is the law of the Church of England." Quarterly Eeview, Aprü, 1865. Art.: "Clerical Subscription." Ecclesiastical Judgments OP the .Privy Council ; with a Preface by the Lord Bishop op London. London: John Murray, Albemarle Street. 1865.] " Pan dorodd y Diwygiad gan hyny allan," ebe Mr. Peter Bayne, " yr oedd yma dderbyniad dyblyg yn ei aros yn Lloegr. Yr oedd y bobl wedi eu haddysgu gan ddysgawdwyr ysbrydol i dderbyn athrawiaeth y Diwygwyr: yr oedd y Penadur wedi ei galonogi trwy yr hyn oedd er ys hir amser yn cymeryd lle yn y wlad, i wrthod cydnabod uchafiaeth eglwysig y Pab. Yr oedd un Diwygiad yn cael ei osod ar droed gan y llys; ac un arall yn myned ymlaen ymhlith y bobl. Yr oedd y cyntaf gan mwyaf yn wleidyddol; yr olaf oedd yn ddwfn grefyddol: canlyniad cyntaf y naill oedd Eglwys Wladol Harri VIII.; a gweithiad y llall o fewn ac o faes i'r terfyn Eglwysig, a gyfansoddai dros fwy na chan' mlynedd yr hyn a alwn yn Buritaniaeth."* A'r cyntaf o'r symudiadau hyn y mae a fynom ni yn yr erthygl hon. Beth yw yr achos na fuasai yr hyn a elwir y Diwygiad Seisonig mor drwyadl Brotestanaidd â'r diwygiad a gymerodd le bron yr un amser ar y Cyfandir, ac yn yr Alban? Gellir ateb y gofyniad hwn mewn rhan trwy gyfeirio y darllenydd at y dyfyniad a nodwyd uchod, allan o waith Mr. Bayne. Symudiad poblogaidd a chrefyddol oedd y Diwygiad ar y Cyfandir, ac yn arbenig felly yn yr Alban. Luther, Calvin, a Knox, oeddynt arweinwyr a chynnrychiolwyr ysbryd y diwygiad yn y gwledydd hyny, a gadawsant eu hargraff arno. Dynion trwyadl, ac anmhosibl eu bodd- loni â hanner mesurau, oedd y Diwygwyr; a chyffelyb, ar y cyfan, ydoedd y Diwygiad a effeithiwyd drwyddynt. Ni fuasai Jenny Geddes yn meiddio chwyrndaflu ei hystôl at yr offeiriad hwnw yn Edinburgh, gan ddywedyd, " Villain, wilt thou read the mass at my lug ?" oni buasai íod y Diwygiad wedi cyrhaedd ei uchafiaeth, a bod miloedd o'r cyfryw â Jenny yn byw yn yr Alban ar y pryd. Yr oedd athrawiaeth Knox wedi lefeinio meddwl ei gydgenedl nes crëu y gwrthweithiad mwyaf trwyadl ynddynt at Breladiaeth, yr hyn a ystyrient yn ddim amgen nag enw * English Pwüanism. p. 4. 1866.-1. b