Skip to main content

Y TRAETHODYDD. CYMRU TRWY LYGAID SAESONIG. Y mae genym safon o'r eiddom ein hunain wrth ba nn i farnu pa faint o ymddiried i'w roddi i'r hyn a ddywed siaradwr neu awdwr pan yn siarad neu yn ysgrifenu am bethau a fyddont tu hwnt i gylch ein gwyb- odaeth ni ein hunain. Na fydded i'n darllenydd ein camsynied. Nid ydym mewn modd yn y byd yn chwennych awgrymu mai nyni ddarfu ddyfeisio y safon y cyfeiriwn ati. Dichon ei bod yn cael ei harfer flyn- yddoedd lawer cyn ein geni ni. Dichon ei bod wedi ei desgrifio a'i harganmawl yn Uawer gwell nag y gallwn ni wneuthur y naill na'r llall iddi, gan ddynion sydd er ys llawer dydd wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Ond nid ydym yn cofio clywed ei desgrifio erioed gan neb ond ein hunain, a hyny ond yn anaml. Ni ddarllenasom am dani mewn un llyfr. A chan hyny, er ei fod yn fwy na thebyg ei bod yn cael ei harfer gan y rhan amlaf o'n cyd-ddynion, yr ydym yn beiddio ei galw—ein safon ein hunain. Dyma hi mewn ychydig eiriau: Byddwn yn barnu gwirionedd a chywirdeb yr hyn a ddywed siaradwr neu ysgrifenydd am bethau anadnabyddus i ni wrth y mesur o wirionedd neu gywirdeb a fyddo yn yr hyn a ddywed am bethau ag y gwyddom am danynt. Os bydd yn camsynied ynghylch ac yn eamddesgrifio y naill, yr ydym ar unwaith yn colli pob ymddiried yn yr hyn a ddywed am y lleill. Os cawn draethawd ar ddaearyddiaeth yn Uawn camsyniadau wrth ddes- grifio Cymru, y mae hyny ar unwaith yn dinystrio pob ymddiried a allai íod genym yn ei ddesgrifiad o Timbuctoo. Yr ydym yn dra chydna- byddus â mynydd Garthmaelwg. Gwelsom ef bob dydd am ugain mlynedd. Yr ydym wedi dringo ei lethroedd, ac wedi sefyll ar ei gopa, gan edrych gyda syn foddlonrwydd ar draws gwlad hyfryd ein genedig- aeth. Gwylied ein hawdwr rhag syrthio i gamsyniad wrth ddesgrifio hwn, oblegid os gwna, ni bydd i ni roddi coel i ddim a ddywed pan iyddo yn desgrifio mynyddoedd Bwiderpooch. Y mae yn gorwedd o'n blaen lyfr a elwir " Wild Wales," yn dair cyfrol, wedi ei ysgrifenu gan Mr. George Borrow, awdwr amryw lyfrau eraill, megys «The Bible in Spain," " Zincali, or the Gipsies of Spain, their mannm, customs, religŵn, and language," &c, &c. Nid ydym wedi gweled yr un o'r Uyfrau hyn; a phe buasem wedi bod unwaith yn awyddus am ?u ^weled, yr ydym yn bur sicr y buasai bob cyfryw awydd yn ílwyr ddif- umu; wrth ddarllen " Wild Wales" Y mae y camsyniadau aneirif a ioSÎ * ^a ra* y mae Qm ûawdwr wedi syrthio wrth ddesgrifio Cymru, WW.—3, s