Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. LLYFR GENESIS; EI WERTH A'I BWYSIGRWYDD. ERTHYGL I. Nid oes un rhan o'r Bibl yn fwy gwerthfawr a dyddorol na Llyfr Genesis. Mae amryw bethau yn cyfarfod ynddo sydd yn rhoddi iddo werth a phwysigrwydd neillduol. Saif yn yr un berthynas â'r holl Ysgrythyrau ag y gwna y sylfaen â'r adeilad. Byddai yn anmhosibl deall llawer o bethau sydd yn amlwg yn yr Ysgrythyrau oni bae am y gol- euni a deflir arnynt yn Llyfr Genesis. Yn y llyfr hwn y ceir rhesymau mawrion athrawiaeth y Bibl am Dduw, am ddyn, am bechod, ac am y Gwaredwr a'r waredigaeth. Gorweddai hanesyddiaeth y Bibl dan lèn o dywyllwch—nis gallem ganfod rheswm am y peth hwn a'r peth arall, oni bae am y ffeithiau a ddygir ger ein bron yn y llyfr hwn. Fel mai y gorchymyn cyntaf o ran trefn yn y gyfraith ydyw y cyntaf hefyd o ran pwysigrwydd, felly y llyfr sydd yn sefyll ar fiaen rhestr y llyfrau canon- aidd, ydyw y cyntaf hefyd o ran pwysigrwydd. Arno ef y mae y gyf- raith, y prophwydi, y salmau, ac i fesur helaeth, yr efengylau a'r epis- tolau, yn sefyll. Y mae y ffeithiau a nodir yn Genesis, a'r egwyddorion cysylltiedig â'r ffeithiau hyny, yn cydymwau â holl hanesiaeth ac â holl athrawiaeth y Bibl. Gellir edrych arno fel rhagarweiniad, nid yn unig i hanes a chyfraith meibion Israel, ond hefyd i holl gynnwysiad yr Ysgryth- yrau. Genesis ydyw porth teml dadguddiad; trwy gydnabyddiaeth â llyfr Genesis y gall yr efrydydd ennill cydnabyddiaeth â holl gynnwysiad y Bibl. A diammheu mai un achos o amledd yr ymosodiadau ar y llyfr hwn ydyw ei berthynas agos â'r holl ddadguddiad. Gwanycher ein cred- iniaeth yn Genesis—lleihäer ein parch iddo, ac nid hir y parhäwn i gredu a pharchu yn ddyladwy yr ysgrythyrau eraill. Mae enw y llyfr yn awgrym o'i bwysigrwydd a'i werth, ac o'r lle a fwriedid iddo ymysg yr ysgrifeniadau sanctaidd. Yn y Canon Hebraeg, gelwir ef, oddiwrth y gair gyda pha un y dechreua, bereschith, " yn y de- chreuad;" a chan y Deg a Thriugain yweo-is, Genesis, gair yn arwyddo crëad, cynnyrchiad, tarddiad (production, origination), ac hefyd cenedl- aeth. Mae yn hawdd canfod priodoldeb yr enw hwn. Adroddiad hanes dechreuadau ydyw. Mynega hanes crëad nefoedd a daear a'u holl luoedd hwynt, crëadigaeth dyn, dechreuad gyrfa hanesyddiaeth, dyfod- iad pechod i'r byd, dechreuad y dadblygiad a barhäodd am oesoedd o fwr- iadau grasol Duw am ddynoliaeth gwympedig, yr ymrysonfèydd boreuaf rhwng y ddau hâd, tarddiad yr Hebrëatd ac elfenau cyntaf eu cyfraith; 1864.—4. 2 c