Skip to main content

Y TRAETHODYDD. YR IESU A'I DDILYNWYR. íC A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi . a'th ganlynaf i ba le bynag yr elych.. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ífauau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr. Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gâd i'r meirw gladdu eu meirw; ond dos di a phregetha dèyrnas Dduw. Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a'th ddilynaf di, 0 Arglwydd; ond gâd i mi yn gyntaf * ganu yu iach i'r rhai sydd yn fy nhŷ. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a'r • sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac ynedrych ar y pethau sydd o'i öl, yn gymhwys i deyrn- as Dduw."—Luc ix. 57—62. Yn Matthew (viii. 19—22) yr ydym yn cael y geiriau cyferbyniol fel y canlyn: " A rhy w ysgrifenydd a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, Athraw, mi a'th ganlynaf i ba le bynag yr elych. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae fíauau gan y llwynogod, a chan efcediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr! Ac un arall o'i ddysg- yblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gâd i'r meirw gladdu eu meirw." Heb aros yn awr ar y gwahaniaeth yn sylwedd y ddau adroddiad, y mae gradd o anhawsder yn codi o'r lle a roddir gan Matthew a Luc i'r amgylchiadau hyn yn yr hanesiaeth efengylaidd. Y mae Matthew yn eu rhoddjl yn lled gynnar, dybygid, yn oes weinidog- aethol ein Hiachawdwr, pan y mae yn myned o Capernaum i Gadara, cyn tawelu y dymhestl, &c. Y mae Luc o'r ochr arall yn peri i ni feddwí fod yr ymddyddan wedi cymeryd lle fel yr oedd yr Iesu yn ymdaith tua Jerusalem, yn agos, fel y gellid meddwl, i derfyn ei weinidogaeth. P^ fodd yr ydys i gysoni hyn ? Fel y gallasem ddysgwyl, y mae wedi bod yn ddymuniad cryf yn yr eglwys er yn fore iawn i allu gwneyd allan o'r Pedair Efengyl hanes cyflawn, ac mewn trefn amseryddol, o fywyd Iesu Grist Yr ydym yn cael Tatian yn llafurio yn y maes hwn mor fore â thua'r ílwyddyn o oed Crist 170, Theophilus o Antioch tua'r flwyddyn 181, ac Ammonius tua'r flwyddyn 230. 0 hyny hyd yn awr y mae,,eu cydlafurwyr wedi bod yn lleng. Ar y dechre, ni cheisid ond rhoilîii y_ cyffelyb ymadroddion, ^. ar gyfer eu gilydd; ond yn fuan yr y<lỳm yn" canfod amcan pellach fÊÈèP- hymgeisiadau, sef i osod pob aìngylchiad a gofnodir gan yr Efetfgyfwyr yn ei drefn amseryddol. Yma^llawer wedli cymeryd yn ganiatäol^mai yn yr ystyr^yma yr ydym.i chwiHo am y cyd-ddilyniad sydd yn ngwahanol amgyloniadau yr hanesiâeth ŵnct- aidd; ac nid öes dim'yn fwy pwysig yn eu golwg na gallu olrhain amser- 1864.—2. - k