Skip to main content

Y TRAETHODYDD. MAWEHYDI A GORCHESTION LLAFUR. Ye ydys yn arfer y gair "llafur," yn gyffredin, i ddynodi ymarferiad corff a meddwl yn nghyflawniad gwahanol orehwylion bywyd. Ac yn yr ystyr yma, ymlaenaf a phenaf, ei defnyddir yn y tu dalenau canlynol. Bydd yn amcan neillduol genym wrth fyned rhagom, nid yn unig i ddifyru meddwl y darllenydd, ond hefyd i feithrin ynddo syniad priodol am urddas yn gystal ag am hawliau llafur. Ewyllysiem iddo deimlo mai llafur ydyw y prif ragredegydd ar lwybr gwareiddiad,—mai dyma ddiwyllydd ein tiroedd, adeiladydd ein llyngesau a'n dinasoedd, ac mai trwyddo yn unig y cyrhaeddwn y nerth a'r iechyd corfforol a meddyliol hwnw a'n gwna yn ddynion te;lwng o'r cyfhod gorbrysur yr ydym yn byw ynddo. Dwl ac anystyriol yn wir a raid fod y bobl a edrychant yn ddiystyr- llyd ar Iafur, neu a siaradant yn ddirmygus am ddynion, yn unig am mai ar ymdrechion y dwylaw a'r ymenydd y maent yn gorfod byw. Oni thywyna y ffaith ger ein bron, gydag eglurder goleuni canol dydd, mai trwy lafur y cynnyrchir holl gyfoeth, ac y delir i'r làn holl rwysg ac ardderchogrwydd cenedloedd? Ar wahân oddiwrth lafur, beth fyddai gan neb o honom i'w fwynhâu, neu i ymffrostio o'i. blegid ? Y mae synwyr y bobl fwyaf goleuedig ymhob cenedl yn eu dysgu i osod y bri uchaf, bob amser, ar egniadau gonest y dosbarthiadau llafurus o'r boblogaeth. Fel y dengys yr hanes a ganlyn, yr oedd y Groegiaíd gynt yn coleddu syniad goruchel am brydferthwch a mawrhydi Uaíur. Yr oedd un o'r gwrthddrychau a addolid ganddynt yn cael edrych arno fel duw llafur a chelfyddwaith. Arddangosid ef fel ar waith mewn gef- eiliau a gweithfäoedd; eto, mor bell oedd y duwiau eraill o ystyried hyn yn ddianrhydedd i'w urdd, fel y penderfynasant, yn ol fel y mae yr hanes yn myned, mewn cydgynnulliad difrifol o'r eiddynt, y caffai ef dduwies cariad a phrydferthwch yn wraig iddo. Ac yr oedd yr undeb dychy- mygol yma rhwng Vulcan y llafurus a Venus y brydf&rth, yn gosod aÜan y cysylltiad a hanfodai, yn ol fel y tybient hwy, cydrhwng üafur â'r hyn sy brydferth ac urddasol. Y fath oedd y foeswers a gyflwynid i'r byd yn un o chwedlau poblogaidd y genedl fwyaf goleuedig ac athronyddol, a gynnwysai y gyfran Baganaidd o'r ddaear, yn yr amser a fu. " Ymhob llafur y mae elw," ebe y doethaf o ddynion; a theimlwn oll yn ddiau, nad oes un gangen o lafur heb fod yn barchadwy; eto priodòl yw crybwyll fod cenedloedd y cynfyd yn gyffredin yn gosod y bri uchaf 1864.—1, b