Skip to main content

Y TRAETHODYDD. HANES RHYDDID CREFYDDOL YN MHRYDAIN. TRYDEDD ERTHYGL. Yr ydys yn bwriadu i'r ertliygl hon fod yn un derfynol, gan nad pa un a fydd yn dda gan y darllenydd glywed hyny ai peidio. Yn ein herth- yglau blaenorol, olrheiniasom hanes rhyddid crefyddol yn Mhrydain i ìawr o'r oesoedd boreuaf hyd ddiwedd teyrnasiad y Frenines Elizabeth ; yn awr dilynir yr hanes ymlaen oddiyno hyd y chwyldröad yn 1688, pryd y llwyr sefydlwyd goddefiad crefyddol yn ein teyrnas, ac y cadarn- häwyd y rhagorfreintiau naturiol a gwladol hyny ar ba rai y mae y cyf- ansoddiad Prydeinig wedi ei seilio. Pe yr amcenid dilyn yr hanes ymhellach ymlaen, mae yn eglur na fyddai genyni ddim newydd, neu o ddyddordeb anarferol, i'w ddwyn i sylw ein darlienyddion. Ar farwolaeth Elizabeth, disgynodd coron Lloegr yn naturiol i ran Iago VI. o'r Alban, yr hwn oedd fab i'r hawddgarol, eto anffortunus Mary, Brenines yr Ỳsgotiaid. Fel y gallesid dysgwyl, dygodd Iago drosodd gydag ef liaws o'i ddeiliaid a'i lyswyr Albanaidd, y rhai a fedd- iannent nodweddion arbenig a phriodol iddynt eu hunain. Fe gofìr mai yn y fiwyddyn 1603 yr esgynodd Iago i orsedd Prydain. Yn awr wele y ddwy genedl, ar ol bod yn hir mewn cyflwr o elyniaeth llidiog y naill tuag at y llall, wedi eu hûno dan lywyddiaeth yr un teyrn. Nid oedd yr undeb hwn, pa fodd bynag, ond rhywbeth mewn enw yn unig. Yr oedd sefydliadau y ddwy wlad, yn gystal ag ymarferiadau y trigolion, yn parhâu i fod yn llwyr annhebyg i'w gilydd. Yr oedd eu seneddau a'u llysoedd cyfreithiol ar wahân megys cynt. Ond yr hyn a barai y gwa- haniaeth mwyaf rhyngddynt ydoedd eu cyfansoddiadau eglwysig. Dyg- asid y Diwygiad yn Lloegr ymlaen oddiar egwyddorion hollol wahanol i'r rhai a reolent yr unrhyw gyfnewidiad yn yr Alban. Yn y wlad hon, gwelsom i'r Diwygiad, yn allanol o leiaf, gael ei achlysuro gan fympwy o eiddo Harri VIII., yr hwn, er mwyn ymddial ar y Pab, a beuderfynodd na chaffai Eglwys Lloegr mwyach ddim bod yn ddibynol ar Eglwys Rhufain. Yn yr Alban ar y llaw arall, nid oedd y symudiad mawr cref- yddol dan sylw yn ddim amgen na chanlyniad i gyffro poblogaidd o ar- uthrol nerth, a hwnw yn cael ei ddwyn ymlaen yn gwbl groes i ewyll- ysiau y blaid lywodraethol. Gan hyny, fel y mae yn naturiol meddwl, yr oedd y teimlad o barthed i athrawiaethau ac egwyddorion crefydd yn fwy cyffredinol ymhlith yr Albaniaìd nag ymhlith y Saeson. Ynglyn â hyn, yr ydym i goíìo fod y ddwy genedl yn amrywio oddiwrth eu gilydd 1863.—3, s