Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. BAC O N. [Personal History of Lord Bacon. From Unpublished Papers. By Wil* LiAM Hepworth Dixon, of the Inner Temple. London, Murray. 1861. The Story of Lord Bacon's Life. By W. Hepworth Dixon, Barrister at Law. London, Murray. 1862. Traethodau Gwladol a Moesol. Gan Francis Bacon, Barwn Verulamt Is-Iarll St. Alban, ac Arglwydd Uchel-Ganghellydd Lloegr. Gyda Hanes Bywyd yr Awdwr, a Nodiadau gan Richard Williams, Trallwm. Machynlleth, Evan Jones. 1862.] Nid ydym yn cofio i ni yn ystod ein profiad llênyddol gyfarfod â dim a barodd i ni ofid dyfnach na'r anghysondeb poenus a ddesgrifir gan ys- grifenwyr yn gyffredin rhwng Bacon fel dyn a Bacon fel athronydd. Yr ydym yn cofio yn dda am yr amgylchiad pan y disgynodd y trallod hwn arnom gyntaf. Yr oeddem yn ieuenctyd cynhes ein hefrydiaeth, wedi ein dysgu i weled y gwasanaeth mawr a wnaethai Bacon i ddynol- ryw, ac wedi darllen cryn lawer o'i ysgriíeniadau, a hyny gyda theimlad o lawenydd a diolchgarwch rhai yn gweled fod cyfandir newydd wedi ei ddwyn i'w meddiant; a phan gawsom gyfieusdra i ddarllen hanes ei fywyd, mawr y gwerthfawrogem y fraint o ddyfod yn fwy cydnabyddus â dyn oedd wedi gosod y byd dan y fath rwymedigaeth iddo. Ond ni chawsom fyned ymhell nes gweled fod brychau gwaradwyddus wedi glynu wrth ei gymeriad. Anffyddlondeb, anniolchgarwch, bradwriaeth, creulondeb, gorthrwm, llygredigaeth, derbyn llwgrwobrwyon er mwyn gwyro barn,—dyna lle y maent, fel yr oedd ysbrydion hiliogaeth Ban- quo yn dyfod ymlaen yn ddiddiwedd ar lygaid dychrynedig Macbeth, yn ymrithio o fìaen ein llygaid ninnau yn rhes hirfaith o gamweddau duon; ac erbyn gweled eu bod oll yn cydgyfarfod yn nghymeriad gŵr ag yr oedd y drychfeddwl a ffurfiasem am clano mor lawn o bobpeth ag oedd bur a dyrchafedig, yr oedd ein siomedigaeth a'n tristwch yn fawr yn wir. Lusiffer, mab y wawrddydd, pa fodd y'th dorwyd di i lawr? A ydyw hyn oll yn bosibl? " Y doethaf, y dysgleiriaf, a'r baweiddiaf o ddynolryw," ebe Pope. " The wisest, brightest, meanest of manldnd." A ydyw yn bosibl i ansoddion mor wrthgyferbyniol gydgyfarfod mewn unrhyw ddyn? Gwyddom yn dda fod lliaws o ddyniòn athrylithgar y byd wedi bod yn hynod mewn anfoesoldeb. Y mae lliaws o'r rhai srdd 1863.-2.