Skip to main content

Y TRAETHODYDD. HANES RHYDDID CREFYDDOL YN MHRYDAIN. o'r oesatj cyntaf hyd farwolaeth harri yr wythfed. Diau nad oes un fenditli dymmorol a brisir yn uwch gan ddynion o feddyliau goleuedig, ac o deimladau anrliydeddus, na rhyddid i farnu a gweithredu mewn materion crefyddol yn ol argyhoeddiadau cydwybod. Rhyddid crefyddol!—onid hawlfraint naturiol pob dyn, a gobaith dysglehiaf y ddaear ydyw ? Eto y mae cyfiawn a pherffaith ryddid crefyddol—rhyddid i ddysgu a gwrando athrawiaethau a gorchymynion dwyfol Cristionogaeth, heb un math o ymyriad anghyfreithlawn o eiddo y llywodraeth wladol,—y mae y cyfryw ryddid, meddwn, yn beth nad ŵyr y rhan fwyaf o wledydd y ddaear ddim am dano, ond yn unig drwy hanes neu ragddysgwyliad. Yn wir, nid yw Prydain, er cymaint ei goleuni, ac er amled ei rhagorfreintiau, ac er uched ei bost "ynghylch rhyddid, ddim wedi cyrhaedd man uchaf ei gogoniant gyda golwg ar hyn eto. Ofer fydd i ni freuddwydio ein bod yn mwynhâu cyflawn ryddid crefyddol yn y deyrnas hon, tra y canfyddwn fod yma Eglwys Sefydledig drwy gyfraith yn parhàu mewn hanfodiad, oblegid y mae y pethau hyn yn dragywyddol anghynimodadwy â'u gilydd. Ac eto y mae genym achos neillduol i ddiolch i Dduw. a chymeryd cysur, am fod pethau, gyda golwg ar hyn, wedi cyrhaedd i'r fath sefyílfa ddymunol ag .y canfyddir eu bod. Nid fel y mae arnom ni y mae wedi bod'ar filoedd o'n tadau yn yr oesau gynt. Dyoddefasant hwy "ymdreeh mawr o hel- bulon,"—cawsant brofedigaeth trwy watwar, a ffiangellau, a charchar, ynghyd a dyoddefaint o bob math, oblegid eu hymlyniad wrth egwydd' orion a broffesir genjm ni, eu holafiaid, yn rhydd ac wyneb agored, heb fod yn rhaid i ni arswydo gwg na soriant yr awdurdodau gwladol mewn un modd. Mor werthfawr yn eu golwg hwy a fuasai y fatìi " oddefiad" ag a ganiatëir i ni yn hollol ddiwarafun, oddieithr gan bleidiau nad allant mwyach ond anfynych ein niweidio ! Dylem yn wir deimlo \ti llawen o herwydd ein rhyddid crefyddol; a dylem eto ei werthfawrogi yn fwy, yn gymaint a'i fod wedi costio mor ddrud i'n rhagfiaen^T gwrol- frydig a hunanymwadol. Nis meiddiwn fod yn ddiystyr o hono, canys gwerth gwaed ydyw! Ein hamcan yn yr erthygl hon, ac erthyglau canlynol, fydd cyflwyno ger bron y darllenydd ryw frasgynllun o hanes rhyddid crefyddol yn Mhrydain o'r oesoedd boreuaf hyd yn awr, fel y canfydder pa nior fawr 1862.—4, 2 ç