Skip to main content

Y TEAETHODYDD. GORONWY OWEN—EI WAITH A'I ATHRYLITH. Yn unol â'n haddewid, yr ydym yn dychwelyd at wTthddrych ein sylw- odau blaenorol, sef Goronwy Owen, gycla y bwriad o wneyd rhai sylw adau pellach ar ei waith a'i athrylith ; canys dyma yr unig gynmnrodd a adaw- odd ar ei ol i'w genedl, trwy ba un y bydd ei enw, niae yn debyg, yn glod- fawr yn eu rnysg hyd na byddo amser mwyach. Mae ei farddoniaeth wedi ei gyfansoddi yn ol yr hen ddull Cymreig ar y Mesurau Caethion, ac yn gynnwysedig gan y mwyaf o Gywyddau ac Awdlau, a'r rhai hyny yn ol dull yr hen feirdd, yn fyrion, heb fod dros gant neu ddau o linellau. Yr Awdlau ydynt ar y Pedwar IMesur ar Hugain, oddigerth dwy, un o ba rai a gyfansoddwyd ganddo cyn gwybod beth oedd Awdl. Yr oedd llênyddiaeth Gymreig mewn cyflwr pur wahanol pan flodeu- odd Goronwy Owen i'r hyn ydyw yn bresennol. Nid oedd ond ambell un yma ac acw, a gawsai well nianteision na'r cyffredin, yn alluog i ddarllen y pryd hwnw, ac ychydig iawn o lyfrau Cymreig oeddynt i'w cael, a hyny yn unig yniysg y gradd a ystyrid yn ddysgedig o'r bobl. Dywred Goronwy Owen ei hun na welsai efe yr un llyfr Cymraeg yn wrerth ei ddarllen, oddigerth y Bibl a'r Bardd Cwsg. Yr oedd rhai awTd- wyr Cymreig o enwogrwydd, mae yn ddiammheu, yn ei amser ef; ond bychan iawn oedd eu rhifedi; eithr ar yr un pryd yr oeddynt mewn ystyr yn gawri llênyddol wrth eu eymharu à'r tô presennol o ysgrifenwyr yn Nghymru, y nifer fwyaf o'r rhai yd}Tit yn anwybodus, }ti hunanol, ac }ti ddiddysg. Ieuan Brydydd Hir a William Wynn oeddynt yn ddynion dysgedig, yr un modd â Goronwy Owen; a'r tri brawd, sef Lewis, Eich- ard, a William Morris, oeddynt yn enwrog yn eu dydd fel dynion o wy- bodaeth ëang, a gradd helaeth o ddysgeidiaeth; a Mr. Eichards o Ys- trad Meurig oedd hefyd yn ysgolaig da, ac yn fai'dd coeth. Ond ychydig o farddoniaeth Gymreig oedd yn argraffedig, oddigerth Llyfr y Ficer, a rhy\v nifer o gerddi llygredig a masweddol; ac nid oedd nifer digonoí o ddarllenwyr yn y Dywrysogaeth i wneyd i farddoniaeth o radd uchel fel yr eiddo Goronwy Owen dalu am y gôst o'i hargraffu. Yr oedd Wil- liams o Bant y Celyn, fe allai, yn dechreu argraffu rhai o'i ganiadau tua'r pryd hwii, a daeth y rhai hyn, o herwydd rhwryddineb yr iaith a'r mesurau, a'r eneiniad efengylaidd oedd yn perthyn iddynt, jti fuan yn dra phoblogaidd, er eu bod yn cynnwys barddoniaeth o radd uchel. Ond yr oedd gwaith Goronwy Owen o nodwedd wahanol: ei iaith yn uwch ac yn fwy dysgedig, ac ymhell uwrchlaw cyrhaeddiadau y lliaws i'w 186S.—2. k