Skip to main content

Y TRAETHODYDD. GORONWY OWEN. [Gronoyiana. Gwaith y Parch Goronwy Owen, M.A. Llanrwst, 1860.J Mewn plwyf anghysbell yn Ynys Fôn, yn agos i'r ffordcl fawr sydd yn arwain o Bentraetli i Lanerchymedd, oddeutu cant a deugain mlynedd yn ol, y ganwyd yr enwog Goronwy Ówen. Ycliydig o hanes ei ddydd- iau boreuol sydd ar gael, a therfynodd ei oes yn America. na wyddis yn iawn pa brycì, ond tybir mai tua'r fìwyddyn 1709, ac felly pan oedd mewn ystyr yn mlodau ei ddyddiau, sef o gylch saith mlwydd a deugain oed. Fel hyn y mae dechreu a diwedd ei einioes yn colli o'r golwg megys dan lèn; a'i dalentau yn unig a fuont yn foddion i wneyd i gan- olddydd ei fywyd ymddysgleirio yn y fath iodd nes gwneyd pob rhan o'i einioes yn enwog, a'i enw yn anfarwol, ymysg ei gydwladwyr. Mewn cyfrol ddestlus a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Llanrwst, ceir casgliad o'i farddoniaeth a'i lythyrau, y rhai ydynt yn rhoddi i ni y cynnorthwy goreu tuag at ffurfio rhyw ddrychfeddwl ynghylch helyntion ei oes hel- bulus, tra bu yn preswylio yr ochr yma i'r Môr Werydd. Ceir hefyd yn y llyfr un o'i lythyrau, ac awdl ar farwolaeth Lewis Morris, Ysw., a an- fonwyd drosodd gancldo ar ol iddo ymsefydlu yn America. Dywedir i ni mai eurych oedd ei dad; ac mae yn amlwg bod ei rieni mewn sefyllfa isel yn y byd; ond methwyd dyfod o hyd i'w enw yn nghoflyfr eglwys ei blwyf genedigol, sef Llanfairmathafarneithaf, er y gellir bod agos yn sicr y dylasai fod yno ryw bryd o gylch y fìwyddyn 1722. Nid ydym ychwaith yn gallu cael allan i foddlonrwydd pa fodd y cafodd ei ddwyn i fyny yn offeiriad ; canys y mae yn amlwg bod amgylchiadau ei rieni yn gyfryw nad oeddynt hwy eu hunain yn alluog i gyfarfod y costau anghen- rheidiol tuag at roddi iddo addysg gymhwys i fyned i Éydychen, ac i'w gynnal ar ol hyny, yn ystod ei arosiad yno. Cymaint a4allwn gasglu oddiwrth ei lythyrau ef ei hun ydyw, iddo fod yn yr ysgol yn Llanallgo, ac ar ol hyny yn ysgol Rammadegol Bangor. Mae ysgrifenydd diwedd- ar yn y Quarterhj Iicview yn dywedyd mai Mr. Lewis JMorris a'i cynnal- iodd yn yr ysgol, ac a'i hanfonodd i Rydychen ; ac yn hanes bywyd y gŵr enwog hwn, yn y Cambrian Begister am 1790, dywedir yr un peth; ond nis gwyddom beth oedd y sail i'r naill ddywediad na'r llall. Mae'r -ys- grifenydd yn y Quarterly Review, pa fodd bynag, yn syrthio i gamgymer- iad pan yn dywedyd mai yn ysgol Beaumaris y bu cyn iddo fyned i Rydychen; canys mae ei dystiolaeth ef ei hun yn benderfynol ar y mater 1862.—1, b