Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. PRYDAIN FAWB, AI MASNACH. Mewn golygiad masnachol, nid oes un wlad dan haul a ddeil i'w chymhara â'r wlad yr ydym ni yn ddeiliaid o honi. Y mae cynnydd ei phobíogaeth, mawredd ei llwyddiant, ynghyd ag ëangder cylch ei thrafnidiaetb, yn peri ei bod yn wrthddrych syndod i holl wledydd gwareiddiedig y ddaear. Y mae clod ei henw yn llenwi pob ynys a chyfandir, ac ardderchogrwydd ei chymeriad yn ennill iddi hyder cyffredinol. Y fath ddiwydrwydd a medr a arddangosir yn ei gweithfäoedd, a'r fath arddangosiadau o fywiogrwydd a golud a welir yn ei phorthladdoedd! Mae ei llestri o bob desgrifiad, a'i hagerlongau godidog, yn aredig tònau yr holl foroedd. Mae a wnelo ei mársiandwyr tywysogaidd braidd â phob cenedl o ddynion dan y nef. Ad- waenir a chroesawir llongau ei masnach, nid yn unig ymhob parth o Ewrop, ond hefyd yn holl borthladdoedd enwog y rhaniadau eraill o'r ddaear. Cy- mer cylch ei thrafnidiaeth i mewn genedloedd gwareiddiedig ac anwareidd° iedig,—ymgyrhaedda ar unwaith i bob rhan o'r byd. Adnabyddir arwydd- nodau ein nwyddau masnachol yn Bolthara a Samarcund, yn gystal ag yn Edinburgh a Llundain; ac y mae y cynlluniau a weithir yn Manchester yn rheoleiddio chwaeth preswylwyr poethleoedd Affrica, a thrigolion bròydd rhewllyd Siberia. Prynir gwisgddeínyddiau Seisonig yn yr holl farchnadoedd rhwng Lima a Pekin, rhwng Madras a'r Sutlej, a thrwy nifer mawr o ynysoedd prydferth y Môr Tawelog. Yn wyneb hyn, pa ryfedd fod Prydain Fawr yn myned rhagddi mor gyflym ? Y mae cynnydd ei phoblogaeth yn aruthrol. Mewn llawer man, canfyddir pentrefydd yn codi megys o'r ddaear, ae y mae llawer tref oedd ychydig amser yn ol yn hollol ddinôd, yn awr yn ymddyrchafu i fod yn ddinas boblog a ffynadwy. Y mae poblogaeth rhai o'r trefydd llaw- weithyddol, yn ystod yr hanner canrif diweddaf, wedi dyblu a threblu* Edrycher ar y brifddinas,—y mae hi yn ymledu allan ymhob cyfeiriad fel pe bae yn awyddus i gymeryd i mewn yr holl wlad o amgylch. Mae yr arwyddion hyn o lwyddiant cenedlaethol yn ein llanw â#syndod pleserus, canys y maent yn brofion tarawiadol, nid yn unig o ëangder masnach Prydain, ond hefyd o helaethrwydd anchwiliadwy ei hadnoddau. Rhyf- edda dyeithriaid yn fwy fyth at fawredd gogoniant ein teyrnas, a theiuilant o bosibl rywbeth yn debyg i'r modd y teimlem ninnau pan y ceisiem ym- synied am y waith gyntaf erioed fod y ddaear ar ba un y trigem yn ym- symud rhagddi drwy y gwagle mawr gyda chyflymdra synfawr ac ofnadwy. Mae yn eglur nas gallasai y deyrnas hon gyrhaedd ei sefyllfa bresennol o ogoniant a chyfoeth yn annibynol ar ei masnach â gwledydd tramor. Addefir hyn yn rhwydd gan bawb. Gellid meddwl gan hyny,-nad ptîth 1860.-4. 2 c