Skip to main content

Y TRAETHODYDD. PAÜL Y CENADWE. (AIL RAN.) " I Paul y rhoddwyd y gwaith o eglurhâu, amddiffyn, a chadarnhâu yr holl athrawiaethau, ac yn enwedig y rhai arddansoddol hyny ynghylch yr ewyllys a gras; i'r hyn yr oedd ei feddwl gweithgar, ei ysgoleigdod, a'i resymeg Groegaidd, yn ei wneyd yn hynod gymhwys. Mae rhesymeg Ioan yn Ddwyreiniol, ac yn gynnwysedig yn benaf mewn gosodedigaeth a chyfochriad; tra y mae Paul yn arddangos holl astrusi y gyfundraeth Roeg." Y cyfryw yw rhai o'r sylwadau a briodolir i Mr. Coleridge yn ei " Table Talk." Pwy hynag a'u gwnaeth, nid ydynt yn camgymeryd lla- wer ynghylch meddwl Paul. Dysgeidiaeth ddofn ac ëang—dealltwriaeth trwyadl am natur crefydd, ac am alluoedd a phriodoleddau yr enaid dynol —dirnadaeth glaer am y perthynasau moesol ac ysbrydol rhwng dyn a'i Wneuthurwr—medr i ddysgu eraill, wedi ei wneyd i'fyny o gyfuniad cyson o amlygrwydd, prydferthwch, gwresogrwydd didwyll, a duwioldeb personol a phrofiadol—ynghydag ymroddiad a hunangysegriad diymmod i wasanaeth ei Iachawdwr a'i Dduw,—y pethau hyn sydd yn ymddangos i ni fel rhai o'r llinellau arweiniol yn nodweddiad Paul. Mae mawredd Paul yn sefyll, dybygem, mewn cyfuniad rhyfedd a ded- wydd o nerth meddyliol a nerth ymarferol—bywiogrwydd i ddirnad a byw- iogrwydd i weithredu. Yr oedd Melancthon yn meddu y cyntaf ond nid yr olaf. Yr oedd gan Luther yr olaf yn llawer amlycach na'r cyntaf. Yr oedd nerth meddwl Paul yn gynnwysedig mewn undeb prydferth o ddeall gafaelgar, barn gywir, a theimlad dwys. Mae gafaelgarwch neillduol ei feddwl yn amlwg yn nyfnder ac eglurder ei ddirnadaeth am ysbryd a natur " teyrnas Dduw," ac yn y rhwyddineb gyda pha un y gallodd fyhed dros- odd o'i safle uchel fel dysgybl Gamaliel, doctor o'r gyfraith, Pharisead balch, ac fe allai aelod o'r Sanhedrim, i'w safle fel un o'r apostolion diw- eddaf, i'w ddangos ar gyhoedd fel drwgweithredwr yn ddrych mewn chwar^ eudý i luoedd o edrychwyr gweledig ac anweledig (1 Cor. iv. 9). Yr oedd ei enaid yn ddigon mawr i gyfodi ar un naid i awyrgylch gogoniant y dyddiau diweddaf. Darfu i feddwl Luther fethu cynnwys ysbryd ac ëangder y Diwygiad oedd wedi gwreiddio, agos yn ddiarwybod, gydag ef ei hun. Efe a geisiodd wneuthur ílwybr canol rhwng sacramentau ysbrydol yr efengyl a sacramentau seremoniol yr eglwys; rhwng ofíeiriadaeth sanct- aidd y naill, a íFurflywodraeth lygredig y llall. Bu fyw, bu yn ymdrech- gar, bu farw, gan gèisio sefydlu a gwneuthur yn boblogaidd syniadau wed\ 1860.—3. - s