Skip to main content

Y TRAETHODYDD. JOHN KNOX A'I AMSERAU. [Life op John Knox : Containìng IUustrations of the History of the Reform- ation in Scotland. With Biographical Notices of the Principal Reformers, and Shetches of the Progress of Literature in Scotland during the Sixteenth Century; and an Appendix, consisting of Original Papers. By Thomas M'Crie, D.D. The Sixth Edition. 1839.] Nid oes neb sydd wedi darllen ond ychydig o hanes Ysgotland yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn wladol neu yn eglwysig, nad yw yn gydna- byddus âg enw John Knox; oblegid yr oedd ef yn un o'r dynion hyny ag y cafodd y wlad a'i magodd deimlo o ben bwygilydd ei fod wedi ei godi gau yr Arglwydd i wneuthur gwaith mawr yn ei oes. Bu yn foddion i gynnyrchu y chwyldròad hollol yn syniadau a theimladau y genedl, nes peri iddi fwrw ymaith iau y Bwystfil, dan yr hon yr oedd wedi bod yn gruddfan am oesoedd, oddiar ei gwàr, ac ymgyfammodi i wneuthur der- byniad o'r " ffydd a roddwyd unwaith i'r saint," a rhoddi ei hun " megys rnorwyn bur i Grist." Y mae yn debyg na chafwyd goruchafiaeth mwy llwyr ar Anghrist, ac na chadwyd flydd y Diwygiad yn fwy dilwgr o hyny hyd yn awr mewn un wlad, nag yn yr Alban. Cyn pen dau can' mlynedd ar ol dyddiau Martin Luther, yr oedd anffyddiaeth yn yr Almaen wedi ym- daenu dros yr holl wlad, ac mewn cysylltiad â hyny daeth Rhesymoliaeth i mewn i'r eglwys fel afon, nes peri nad oedd yn aros ynddi o egwyddoiion y Diwygwyr, erbyn dechreu y ganrif bresennol, ond yr enw yn unig. Ac er fod yno nifer mawr o'r dynion enwocaf ymhob ystyr wedi ymladd yn lew, yn nghorff y deng mlynedd ar hugain a aeth heibio, o blaid ffydd yr efengyl, a chael yr oruchafiaeth i fesur helaetb, nid yw y rhai goreu o hon- ynt wedi gallu ymddyosg yn llwyr oddiwrth ddylanwad yr hyn a wrthwyn- ebent. Yn Lloegr, yr oedd y Diwygiad yn cael ei ddwyn ymlaen yn ol ewyllys y brenin Harri VIII., yr hwn oedd o'i galon yn Babydd, ond ei fod yn gweled fod yn fwy cyfleus iddo fwrw ymaith benogaeth ei Sancteidd- rwydd o Rufain, a chymeryd yr anrhydedd hwnw iddo ei hun, er mwyn bod yu fwy rhydd i gyrhaedd ei amcanion Hygredig. Ac y mae Églwys Loegr wedi bod o hyny hyd yn awr yn ddarostyngedig i ewyllys y rhai a fyddai yn dygwydd bod ar yr orsedd—weithiau yn fwy neu yn llai Pabaidd, yn ol meddwl y rhai a fyddai mewn awdurdod. Ond yn yr Alban llwydd- wyd i fwrw ymaith Babyddiaeth yn llwyr, a Dygwyd y diwygiad ymlaen gan yr eglwys ei hun, heb yn waetbaf y llywodraethwyr gwladoí, a pharhäodd i 1859.—3, s