Skip to main content

Y TRAETHODYDD. YK EISTEDDFODAU. [Powtsion : sef AwcUau, Cywyddau, ac Ynglynion, a ddanfonwyd % Eistedd- fod y TraUwng, Medi, 1824. Bala : R. Saunderson. 1826. Cyprinach Beirdd Ynts Prydain : dan olygiady diweddar Iolo Morganwö. Abertawy : J. Williams. 1829. Príze Essay on the Character op the Welsh as a Nation : by the B&i. W» Jones. London: Simpkin & Marshall. Transactions op the Aberppraw Royal Eisteddfod, including the succcss- ful Poetical Compositions, and the Essay on the Principles of Welsh and English Syntax. London & Oxford : J. H. Parker.] Gellir ystyried yr Eisteddfodau yn sefydliad cenedlaethol, yn perthyn niewu modd arbenig i genedl y Cymry. Canys os edrychir arnynt yn y dull y dygir hwynt ymlaen, a'r prif ddyben o'u sefydliad, canfyddir eu bod yn dwyn perthynas â materion Cymreig, ac yn meddu ar fath o nod- weddiad cenedlaethol i'w gwahaniaethu oddiwrth gyfarfodydd cyífelyb ymysg cenedloedd eraill. Mae yn wir y gallwn ganfod cyfarfodydd o'r cyflelyb natur ymysg cenedloedd eraill, ond mae y dull o'u dwyn ymlaen yn wa- hanol. Yn yr hen Gampau Olympaidd ymysg y Groegiaid gynt, yr oeddid yn rhoddi gwobrwyon am y cyfansoddiadau goreu ìnewn rhyddiaith a barddouiaeth, yn gystal â ll'iaws o bethau eraill o bob math a desgrifiad braidd. A dywedir i ni ddarfod i Herodotus, tad banesyddiaeth, ddarllen ei waith enwog yn un o'r campau hyn, pryd y derbyniodd y fath gymerad- wyaeth, fel ag y rhoddwyd enwau y naw duwies awen i'r llyfrau ag y mae yr hanes yn ei gynnwys. Yx ydym hefyd yn cael bod barddoniaeth yn derbyn bri neillduol ymysg cenedl y Cymry er yr oesoedd boreuaf, ac yr oedd cysylltiad agos rhwng y Beirdd a'r Derwyddon ymysg yr hen Frut- aniaid, pan ddaeth y Rhufeiniaid gyntaf i'r ynys hon. Ond nid ydym yn gallu canfod oddiwrth yr hanesion cywiraf a geir am Dderwyddiaeth, mai yr un ydoedd â Barddas, fel ag yr ymdrecha Iolo Morganwg, ac amryw eraill ar ei ol ef, ein dwyn i gredu. A phellach fyth ydym oddiwrth gredu mai y grefydd Ddadguddiedig a roddes Duw i'r hen Batriarchiaid ydoedd eiddo y Derwyddon. Nid oes ond ychydig o hanes credadwy am y Der- wyddon ar gael, a'r ychydig hwnw ymysg ysgrifenwyr Groeg a Rhufain, y rhai oeddynt yn ddyeithriaid iddynt, a'r pethau a adroddant yn eu cylch yn dwyn perthynas mwy uniongyrchol â Derwyddon y Cyfandir, nag â'r 1869.-2. K