Skip to main content

Y TRAETHODYDD. Y CYMRY A'R IAITH SAESONEG. Un o'r bendithion gwerthfawrocaf a gyfrauwyd i ddyn gan ei Grëawdwr doeth a da ydyw iaith. Y mae yn ddigon tebyg fod pethau eraill, ar lawer o ystyriaeth.au, yn fwy anghenrheidiol iddo; ond prin y meddyJiera fod nemawr ddim ag y mae ei gysur a'i ddefnyddioldeb yn ymddibynu yn fwy arno nag ar iaith. Y mae awyr i anadlu ynddi, ac ymborth i gynnal ei natur, yn bethau sydd yn hollol anghenrheidiol iddo; nis gall efe fyw hebddynt; y mae ymddifadiad o honynt ar fyrder yn troi yn angeuol iddo. Ond nid yw y canlyniad yna, o anghenrheidrwyd'J, yn dilyn amddifad- rwydd o iaith, yn enwedig yn yr ystyr gyffredin a roddir i'r gair. Fe all dyn anadlu, er nas gall siarad; gall ymborthi, er nas gall lefaru; ac fe all holl alluoedd bywydol ei gyfausoddiad fod yn cyflawni eu dyledswyddau yn rheolaidd ac effeithiol, er nas gall efe fynegi i neb yr hyn a deiinla sydd yn anghenrheidiol iddo gael er eu galluogi i barhâu i wneuthur hyny. Y mae y baban bychan yn medru anadlu ac ymborthi i'r graddau sydd yn ofynol iddo ef mor effeithiol âg unrhyw bersou yn ei gyflawn faintioli, tra ar yr un pryd y mae ynganu y gair syralaf a hawddaf i'r diweddaf yn or- chwyl rhy galed o lawer iddo. Ond os golygir y gair yn ei ystyr gyfyngaf—yr ystyr a rydd rhai o'n har- ddansoddwyr iddo—yna y mae iaith yn ymddangos yn llawer mwy pwysig ac anghenrheidiol i ddyn. Y maent hwy yn galw pob osgo neu ystum ag sydd yn amlygu rhywfaint o feddwl yn iaith. Y mae y wên ddymunol, a'r cuchiad anserchog—yr ochenaid drist, a'r chwertbiniad ysgafn—y deigryn trallodus, a'r crechweuiad llawen—ynghyd â phob math o lun y dichon i grëadur rhesymol ei wneyd ag a fyddo yn amlygu yn y radd leiaf ei ffolineb neu ei anfoddogrwydd, ei ddymuniad am unrhyw beth neu ei ymwrthodiad o hono—y mae y pethau hyn oll, a llawer yn ychwaneg, yn cael eu galw ganddynt hwy yn iaitb. Ac os yw eu darnodiad hwy yn gywir, yna y maè iaith yn dyfod yn wir bwysig i ddyn, ymhob amgylch- iacì ac adeg ar ei fywyd. Y mae mor anghenrheidiol i'r baban ag ydyw i'r dyn canol oed, ac y mae y naill yn gwneuthur defnydd o honi yn gystal a'r lla.ll. Nis gall dyn ymdaro ond am ychydig o amser yn y byd heb ei chynnorthwy. Y mae yn hollol anghenrheidiol iddo wneuthur, yn feun- ' yddiol, ryw arddangosiad o'i anghenion a'i ddymuniadau i eraill. Y mae efe, yn ei gychwyniad, yn grëadur bychan digymhorth a disut ryfeddol. Nid oes ganddo yr amcan lleiaf pa fodd i gyflawni ei anghenrheidiau mwyaf pwysig, nac i gynnorthwyo ei hunan mewn dim. Yr oll a all efe ei wneyd tuag at ei helpu ei hun vdvw vr amlygiadau a rydd efe o'i anghen- 1858,-4, 2 v