Skip to main content

Y TRAETHODYDD. MYNACHAETH. Rywfodd neu gilydd, nis gwyddom pa fodd yn iawn, ac nid ymholwn mwyach ychwaitb, yr ydym wedi bod dipyn yn hir cyn cyflëu un math o draethawd ar Fynachaeth yn y Traethodydd. Mae yn eithaf eglur a sicr nad ydyw nac yn llai perthynasol, na Uai amddifad o ddyddordeb, na <f Jesuitiaeth ; " " Yr Olyniaeth ;" " Dolenau y Gadwen ;" " Perthynas Pabyddiaeth a Phaganiaeth,"&c.; pa rai sydd wedi cael eu cymeryd i fyny genym o bryd i bryd, ac yr ydym yn synio ei íod yn ymddangosiad mwy anghyífredin, llawnach o ddyddordeb, ac yn dwyn perthynas agosach â ni, fel y ceisiwn ddangos yn union deg, na'r un o'r rhai hyn, ac na'r un cwest- iwu arall cysylltiedig â hanes yr Eglwys Gristionogol, os nad hefyd âg Eglwys Rhufain. Nid o herwydd ei fod yn ddibwys a difudd mewn cy- mhariaeth, gan hyny, yr ydys wedi ei adael heibio hyd yn bresennol; eithr ei amser, mae yn debyg, oedd heb ddyfod. Y mae ei dro yntau, pa fodd bynag, fel y " Chwil-lys," wedi dyfod o'r diwedd. Gadawer i ni, wrth daro allan, er mwyn y dosbarth hwnw o'n darllenwyr sydd yn dygwydd bod yn fwyaf anghynefin â'n mater, roddi darnodiad, neu yn hytrach ddesgrifiad rhydd o hono; canys y mae anhawsder addefedig, diarebol, onid oes ? i roddi darnodiad manwl o unrhyw beth braidd. Myn- achaeth y gelwir ífurf benodol o benboethni crefyddol. Penboethni, cofier, yw yr enw a roddir i gydgynnyrch mympwy a theimlad, mewn undeb, cyfathrach, a chydweithrediad â'u gilydd, heb fod o dan lywodraeth a hyfforddiad na rheswm, barn, nac egwyddor. Gellir yn ddigon cywir, a phriodol hefyd, ei ddynodi yn wallgofrwydd crefyddol; duwiolfrydedd gwneuthuredig, celfyddol, basdarddaidd; ac yn ol iaith fynegiadol neillduol a thra chynnwysfawrDwyfol ysbrydoliaeth " ewyllys grefydd" y dyn—cyn- nwysedig yn ei egwyddorion symlaf, mewn ymneillduad i radd fwy neu lai allan o'r byd i ddybenion crefyddol; llwyr ymgysegriad—mewn profíes, beth bynag—i feithrinaeth diwyd a hollol duwioldeb dillynwiw. Gwedd- nodir ef ymhellach gan weddwdod diwair, "cosbi y corfí* a'i ddwyn yn gaeth " trwy ymprydiau meithion, gwastadol; ymattaliad mawr, treisiol, oddiwrth foddion cynnaliaeth naturiol, ac ymattaliad Ilwyr oddiwrth bob mwyniannau a boddhâd cnawdol; ymíarweiddiad penydiol llymdost, trwy ymgystuddiad corfforol poenus mewn gwahanol ífyrdd adgas a nychlyd i'r eithaf, ar y cyntaf o leiaíl ac wedi hyny hefyd mewn llíaws o amgylchiad- 1858.-—3, g