Skip to main content

Y TRAETHODYDD. Y CHWIL-LYS. PENNOD IX. T CHWIL-LTS TN VALLADOLID, HISPAEN. Ar yr 21ain o Fai, 1556, yn nhref Valladolid, lle y cynnelid cynghor y chwil-lys yn gyffredin, dygodd y chwil-lyswyr y carcharorion allan, uchêl ac isel, wyth ar hugain mewn aifer. Dygwyd arch pendefiges, gyda dar- lun o honi arni, yr hon a fuasai farw er ys talm, fel y derbyniai hi ei dyfarn yno. Fel y gallai y bobl wrando ar gyhoeddiad y dyfarniad, cyf- odwyd tair esgynglwyd fawr. Ar y gyntaf, eisteddai y Dywysoges Jane, chwaer y brenin Philip, prif lywyddes ei diriogaethau; y Tywysog Siarls, mab y brenin; a thywysogion a phendefigion eraill yn Hispaen. Ar yr ail eisteddai Archesgob Seville, tywysog cynnulleidfa y chwil-lyswyr, gyda chynghor y chwil-lys, esgobion y wlad, a chynghor y brenin. Ar ol i'r tywysogion a'r barnwyr ysbrydol, ynghyd â'u gweinyddwyr ar yr achlysur arbenig hwn, eistedd mewn trefn, arweiniwyd y carcharorion i'w lle hwy- thau, wedi ymwisgo â'u sachau bendigaid (san benitos), y rhai oeddynt o liw melyn, ac yn gorchuddio eu holl gorfí", wedi eu britho â chroesau coch- ion. Cludent oleuen losgedig yn eu dwvlaw, a dygid croesbren wedi ei or- chuddio â llian o'u blaen, fel arwydd o alar. Yr oedd gan y rhai oeddynt i dderbyn barn angeu gapan papyr ar eu penau, y rhai a elwid coaca gan yr Hispaeniaid. Gosodwyd hwy yn eu lle, un ar ol un, y naill uwchlaw y llall, gan ddechreu gyda'r hwn a ystyrid y gwaethaf. Y cyntaf a safodd oedd Dr. Cacalles, mynach o urdd St. AWstin, dyn o wybodaeth helaeth mewn duwinyddiaeth, ac a fuasai yn bregethwr i Siarl V., ymherawdwr yr Almaen. Dilynwyd hyn trwy wawd-bregeth gan fynach Dominicaidd, yr hon a barhâodd tuag awr; wedi hyny aeth y rhaglywydd cyffredinol a'r archesgob i'r esgynglwyd lle yr eisteddai y tywysogion a'r pendefigion, i weinyddu y llŵ pwysig iddynt ar lun croesbren a gerfiesid ar glawr llyfr gwasanaeth yr ofieren. Rhoddwn ffurf y llŵ am unwaith ger bron y darllenydd :— " Bydd i'ch Mawrhydi, &c, dyngu y bydd i chwi bleidio y chwil-lys sanctaidd, ac hefyd roddi eich cydsyniad iddo; ac nid yn unig na fydd i chwi mewn unrhyẅ flfordd ei rwystro, na'i gyhuddo, ond y gwnewch bob amser roddi eich cymhorfch hyd eithaf eich gallu, i weled pawb yn cael eu dienyddio a wyrant oddiwrth Eglwys Eufain, ac a ymunant â'r hereticiaid Lutheraidd, heb dderbyn wyneb unrhyw berson neu ber- sonau, o ha urddas, gradd, amgylchiad, neu sefyllfa y gallont fod. Bydd i'ch Mawrhydi dynga y gwnewch orfodi pawb o'ch deiliaid i ymostwng iEglwys Rufain, a pharchu ei holl ddefodau a'i gorchymynion, ac hefyd i roddi eich cymhorth yn erbyn pawb a gòleddont heresi y Lutheriaid, neu a'i pleidiont mewn un modd." 1858.—2. k