Skip to main content

Y TRAETHODYDD. HANES ATHRONIAETH. PENNOD III.—ACHOSION METHIANT YR HEN ATHRONIAETH, A LLWYDD- IANT ATHRONIAETH DDIWEDDAR. "Ond mewn gwirionedd," ebe Mr. Macaulay, "y mae yr edmygedd a deimlwn tuag at athronwyr yr hen oesau yn ein rhwymo i fabwysiadu y dyb fod eu cynneddfau wedi cael eu camgyfeirio yn hollol. Canys pa fodcl arall y cyfrifir am y ífaith fod y fath alluoedd wedi gwneuthur mor ychydig i ddynolryw ? Gall cerddwr mawr ddangos cymaint o ŷni g'ieuol ar y feün-droed ag ar y ífordd fawr. Ond ar y íìbrdd, bydd ei rym yn sicr o'i gludo ymlaen; ond ar y felin, ni bydd yn myned fodfedd ymlaen. Yr oedd yr hen athroniaeth yn felin-droed, ac nid yn llwybr. Yr oedd yn cael ei gwneuthur i fyny o ymholion anorphen, o ddadleuon ag oeddynt bob amser yn dechreu drachefn. Yr oedd yn ddyfais i gael llawer o ym- orchestu ond clim cynnydd." " Nis gallai dyn ar y cyntaf," ebe Professor Playfair, " ganíbd oddiar ba gyfeiriad yr oedd yn rhaid iddo ddechreu ei ymchwiliadau, ymha gyf- eiriad yr oedd i'w dwyn ymlaen, nac wrth ba reolau yr oedd i gael ei arwain. Yr oedd yn gyílelyb i ymdeithydd yn myned allau i wneyd ym- chwiliad i anialdir ëang ac anadnabyddus, ymha un yr oedd lliaws o wrth- ddrychau mawrion a dyddorol yn ymgynnyg i'w sylw ar bob llaw, tra nad oedd yr un llwybr iddo ef ei ddilyn, nac un reol i lywodraethu ei arolyg- iad." " Cyfeiliornad mawr yr athroniaeth Roegaidd," medd Herschell, " oedcl tybied y buasai yr un llwybr neu ddull (method) ag oedd wedi ei brofi yn Hwyddiannus mewn'ymchwiliadau gwyddonol, yr un mor llwyddiannus mewn ymchwiliadau anianyddol, ac y gellid, wrth gychwyn oddiwrth ychydig o syniadau neu arwirebauhunau-eglur braidd, ymresymu pob peth oddiwrthynt. O ganlyniad, yr ydym yn eu cael yn barhâus yn trethu eu dyfais i ddarganfod yr egwyddorion hyn, y rhai oeddynt i gynnyrchu y lath doraeth o ffrwyth. Un a wna y tân yn sylwedd hanfodol a gwreiddiol y bydysawd; arall awyr ; y trydydd a ddarganfydda yr allwedd i bob an- hawsder, neu esboniad ar bob ymddangosiad, yn y "ro àneípou," neu aufeidroldeb pethau; y pedwerydd yn y " to ój/," a'r " to m ój'," hyny yW, mewn bodaeth a difodaeth." 1857.-3. S