Skip to main content

43 Y TRAETHODYDD. HANES ATHRONIAETH. Y mae yn hysbys i'n darllenwyr mai ein hamcan yn yr erthyglau hyn ydyw rhoddi braslun o hanes athroniaeth o'i dechreuad hyd yn awr. Yn y rhifyn diweddaf, ni a olrheiniasom, yn dra helaeth, hanes Cyfodiad yr Aihroniaeth Roegaidd. Yr ydym yn awr yu symud i— § 2. OES EURAIDD YR ATHRONIAETH ROEGAIDD. Yr ydym eisoes wedi teithio oddeutu 200 o flynyddoedd ar ein llwybr; ac nid ydyra yn aramheu na bydd ein darllenydd, wrth adolygu yr ysgolion sydd wedi bod dan sylw, yn rhyfeddu pa fodd y mae yn briodól galw y cyfnod yr ydym yn myned ato yn awr yn oes euraidd yr athroniaeth Roegaidd. Rhaid cyfaddef fod achos i'r rhyfeddod hwn; canys wrth ganfod y blaid o Ymresymwyr yn ffynu fel yr oeddynt yn mhrif eisteddle y ddoethineb Roegaidd, pa fodcì y gellir llai na synu fod y fath gyfnewid- iad wedi cymeryd lle mor ddisymwth ? Wele, felly y mae y ffaith, ac nid oes genym ddim ond credu y ffaitb, a chofio fod " cewri ar y ddaear yn y dyddiau hyny." A'r cyntaf yn y gyfres ydyw SOCRATES— Enw ag sydd yn cael ei seinio gyda pharch gan filoedd o Gristionogion, o herwydd yr egwyddorion uchel a'i llywodraethent bob amser. Ganwyd ef yn Athen yn y fl. 469 neu 470 C.C., ac yr oedd yn llygad-dyst o lwyddiant Protagoras a'i blaid, ac y mae yn debyg ei fod yn hyddysg yn haues atbroniaeth ei gynoeswyr er dechreuad ei genedl. Y mae rhai yn dywedyd ei fod wedi cael ei addysgu gan Anaxagoras ac Archelaus; eraill a ddywedant ei fod wedi gwrandaw darlithiau Parmenides; ac eraill a fyntumiant ei fod wedi dysgu areithyddiaeth oddiwrth un o'r Ymresymwyr o'r enw Prodicus. Nis gellir rhoddi neraawr goel i'r haeriadau hyn, yn enwedig yr olaf, canys y mae yn cael ei wrtbbrofi yn foddhäol gan yr ath- ronydd ei hun. " Ÿr ydych yn fy nirmygu i," meddai, "oblegid eich bod wedi afradu arian ar Protagoras, Georgias, Prodicus, ac amryw eraill, yn gyfuewid am eu dysgeidiaeth; tra yr ydwyf fi yn gorfod tynu fy holl athroniaeth o fy ymenydd fy hun." Mab ydoedd i uu o'r enw Sophronis* cus, cerfiedydd, a Phaenarete, yr hon oedd fydwraig. Nid yw yn ym- ddangos focì yr ystori ei fod wecîi denu sylw Crito, Atheniad goludog, pan 1807.—1, n