Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. AWDL BAEDDAS. GOLYGFA YN NGOHSEDD Y BEIRDD. Y Llefarwyr,—Plenydd, Alawn, a Gwron y Bedwaredd Ganriî" ar Byîitheö, Beirdd Cymru yn wyddfodol oddifewn i'r Cylch. GWRON. Crebwyll yw prif bwyll y Bardd, Y cryfaf yw y Creufardd: Dawn euraidd yw dynwared, Ond llai yw mewn hýd a lled,— Eilfydda rhyw ŵyl feddwl, Yn lled dêg, â'i ddawn llwyd, dwl, Gan ddilyn sawdl hen awdlau,—neu gerddi, Gwrddodd â hwynt droiau, Ystrydebir gwir neu gau I feddalion feddyliau. Hwt! dynwared hen wireb Sy 'n wan iawn, ni syna neb; Creu mawr, nwyddfawr, newyddfyd, Sy 'n rhyw bwnc a syna 'r byd; Onid creu wna enaid cryf O hono 'i hunan yn heinyf ? Goreu yw creu, Feirdd Crêd ! Yn wrol, na dynwared. Alaw'n. Sôn am greu ?—swniai mwy gras— d'weyd "llunio" Dodi llanwad addas; Gordaflu y gair diflas^ A chyfleu un gwych ei flas. Creu ?—creu yw dechreu o'r dim, Cyn-ddyddio cân o ddiddim ! 1856.-4, \ < 2 0